Gêm gartref lawr yn Aberaeron oedd yn wynebu tîm ieuenctid Llanbed ddydd Sadwrn y 5ed o Fawrth a hynny yn gêm gwpan yn erbyn tîm ieuenctid Gorseinon.
Roedd y ddau dîm wedi cyrraedd yr un deg chwech olaf yng nghystadleuaeth y ‘bowl’ ac felly yn brwydro am le yn y gemau go gyn-derfynol.
Roedd y tywydd yn ffafriol, er bod gwynt cryf yn chwythu i mewn o’r môr, ond roedd hi’n sych ac yn berffaith ar gyfer gêm agored o rygbi.
Gydag anafiadau i reng flaen Gorseinon rhaid oedd cael sgrym diwrthwynebiad am y gêm gyfan, ac felly nid oedd cyfle i flaenwyr Llanbed ddangos eu cryfder arbennig yn yr agwedd yma o’r gêm.
Dechreuodd y gêm yn dda gyda thîm Llanbed yn ymosod yn syth ond yn methu troi y pwysau cynnar i bwyntiau. Yn wir yn erbyn rhediad y chwarae llwyddodd Gorseinon i fynd ar y blaen trwy sgorio cais yn agos at y pyst ac fe lwyddwyd i’w drosi i wneud y sgôr yn 0 – 7.
Dyma’r union sbardun oedd angen ar y tîm cartref ac o fewn dim i’r ail gychwyn, symudwyd y bêl yn gyflym allan o’r sgarmes drwy ddwylo slic nifer o gefnwyr a blaenwyr gan ddiweddu yn nwylo yr wythwr Nathan Mackie, ac yntau yn croesi yn y gornel. Roedd y sgôr felly yn 5 – 7.
Roedd ysbryd y tîm cartref wedi tanio ac o fewn dim roeddent wedi llwyddo i fynd ar y blaen pan gododd Guto Ebbsworth y mewnwr, bêl rydd ychydig tu allan i’w linell ddwy ar hugain ei hunan a rhedeg hyd y cae, cyn rhyddhau y bêl i’w faswr Jac Lloyd oedd ar ei ysgwydd yr holl ffordd. Croesodd hwnnw o dan y pyst. Llwyddodd Jac i drosi ei gais ei hun gan sicrhau mantais o 12 pwynt i 7.
Bu dau gais arall i’r tîm cartref cyn yr hanner gyda chanolwr Llanbed, Gruff Morgan, a oedd yn chwarae ei gêm gyntaf ers mis Medi yn croesi ddwy waith, gyda Gruff ei hun yn trosi un o’r ceisiadau yma. Y sgôr ar yr egwyl felly oedd 24 – 7 i Lanbed.
Wedi’r ail gychwyn fe ymosododd Gorseinon yn gryf ac yn wir fe dalodd hwn ar ei ganfed wrth iddynt sgorio cais gwych o dan y pyst a llwyddo hefyd i’w drosi. Sbardunodd hyn dîm Gorseinon, a gyda’r sgôr yn 24 – 14 fe ymosodon nhw yn gryf unwaith eto wrth iddynt geisio cwrso’r gêm. Ofer bu eu hymdrechion serch hynny, wrth i Lanbed ddod â nifer o eilyddion ffres i’r maes a chyn i’r gêm ddod i ben croesodd y prop Carvey Black y linell ar gyfer y cais lwyddodd i selio’r fuddugoliaeth. Troswyd y cais gan Gruff Morgan i wneud y sgôr derfynol yn 31 – 14.
Gêm wych i Lanbed gyda pherfformiadau arbennig gan holl aelodau’r garfan. Perfformiad tîm gwych i wobrwyo’r hyfforddwyr a’r rheolwr am eu cefnogaeth barhaus trwy gydol y tymor.
Ymlaen i rownd yr wyth olaf!!!