Wyneb lleol yn dod i’r brig yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru

Iona Llŷr wedi ennill gwobr Defnyddio’r Gymraeg mewn modd sy’n Ysbrydoli

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llongyfarchiadau i Iona Llŷr, neu Iona’r Fron fel ei hadnabyddir yn lleol, sydd wedi ennill gwobr Defnyddio’r Gymraeg mewn modd sy’n Ysbrydoli yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni.

Pwrpas y seremoni yw anrhydeddu cyflawniadau athrawon ar hyd a lled y wlad sy’n hyrwyddo llwyddiant mewn addysg, ac sy’n dangos yr ymroddiad a’r ymrwymiad mwyaf yn y broses.

Daw Iona’n wreiddiol o Lanbed ac mae’n gweithio i adran addysg a gwasanaethau plant Cyngor Sir Caerfyrddin fel arweinydd tîm ar gyfer Athrawon Datblygu’r Gymraeg.

Yn ei swydd, mae hi’n cydlynu ac yn ysbrydoli dros 100 o ysgolion yn y sir i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg, nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth, ond hefyd yn gymdeithasol.

Yn brofiadol iawn yn ei maes, mae Iona wedi gweithio i’r Cyngor ers bron i 35 mlynedd ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws y sir, gan ennyn hyder dysgwyr ac athrawon Cymraeg ar bob lefel.

Mae ei gallu i arwain ac arloesi yn galluogi ei thîm i weithredu polisïau iaith ysgolion yn llwyddiannus a Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin.

Mewn datganiad gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ymatebodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant:

“Llongyfarchiadau enfawr i Iona ar ennill y wobr hon sy’n cydnabod ei hymroddiad a’i hangerdd dros y Gymraeg.

“Mae Iona wedi ysbrydoli cannoedd o ddysgwyr dros y blynyddoedd, ac wedi bod yn allweddol wrth gefnogi ein hysgolion i ddatblygu eu darpariaeth Gymraeg.

“Mae hi’n arwain trwy esiampl ac yn meddwl y tu allan i’r bocs, gan ddefnyddio strategaethau arloesol i ddenu rhieni a disgyblion fel ei gilydd at fanteision addysg ddwyieithog.”

Mewn neges drydar dywedodd Elin Williams, Cwmann:

Mor falch o fy chwaer frwdfrydig, ysbrydoledig.

Dyma enghraifft wych o athrawes â’i gwreiddiau’n ddwfn yn yr ardal hon yn cael dylanwad da ac yn ysbrydoli eraill drwy Sir Gaerfyrddin i gyd.