Mae’r prosiect ‘200 o Goed am 200 Mlynedd’ yn rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y Brifysgol. Mae’r fenter hefyd yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru i blannu coed er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Bu disgyblion o Ysgol Bro Pedr, Llambed yn gweithio’n agos â Gwasanaethau Coed Llambed i blannu glasbrennau ar y darn o laswelltir ar safle’r hen reilffordd ar y campws.
Meddai Llinos Jones, Dirprwy Bennaeth Ysgol Bro Pedr: “Mae disgyblion Ysgol Bro Pedr wrth eu bodd eu bod wedi cael y cyfle i gefnogi’r gwaith o blannu coed i ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol. Byddant yn cofio’r achlysur arbennig hwn am flynyddoedd lawer wrth iddyn nhw barhau i ymweld â’r safle i weld y coed yn tyfu.”
Ychwanega Meirion Williams o Wasanaethau Coed Llambed: “Mae’n bleser gennym ni fel cwmni gael ein gwahodd i blannu coed yn rhan o ddathliadau’r Brifysgol. Clywn yn aml fod angen plannu mwy o goed a bydd plannu gyda chymorth Ysgol Bro Pedr yn gyfle arbennig i addysgu’r genhedlaeth nesaf am bwysigrwydd plannu coed.”
Mae plannu 130 o lasbrennau a gafwyd gan Goed Cadw, â chysylltiadau ag ymgysylltu â’r gymuned drwy fenter Canolfan Tir Glas. Bydd y glasbrennau’n gymysgedd o goed o ddetholiadau ‘Coed Gwaith’ a ‘Lliw Gydol y Flwyddyn’ Coed Cadw. Bydd y rhywogaethau’n cynnwys: draenen wen, ceiriosen wyllt, bedwen arian, criafolen, collen, derwen goesog, a helygen lwyd.
Mae plannu coed ychwanegol ar draws y campws yn ceisio cyfoethogi’r fioamrywiaeth ac mae’n gysylltiedig â chydnabyddiaeth strategol y Brifysgol bod cyfoethogi amgylcheddol yn hanfodol i iechyd a llesiant y Brifysgol, y gymuned ehangach a’r blaned yn y dyfodol. Mae’r coed a gaiff eu plannu ar ffin y campws yn goed perllan a rhywogaethau coetir brodorol a fydd, er enghraifft, o les i’r broses beillio, ac yn cyfoethogi cynefin fferm wenyn sydd newydd ei sefydlu.
Meddai Emyr Jones, Pennaeth Gweithredol Eiddo a Datblygu’r Ystadau yn y Drindod Dewi Sant: “Coed a choetiroedd yw enaid cymunedau, ac maen nhw’n hanfodol i gefnogi llesiant, lleihau llygredd, a gwella ansawdd bywyd pobl. Bydd y mentrau hyn yn helpu i hyrwyddo bioamrywiaeth, sicrhau twf cadarn ar gyfer y coed a rheolaeth ar draws ystâd y Brifysgol. Mae hefyd yn rhan o ddathliadau Daucanmlwyddiant y Brifysgol a’i hymrwymiad i ddiogelu at y dyfodol rhag goblygiadau newid yn yr hinsawdd.”
Hefyd nododd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Llambed a Chaerfyrddin yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser mawr gan y Brifysgol wahodd y grŵp cyntaf o gymuned Llambed i’r campws i’n helpu ni gyda’r prosiect ‘200 o Goed am 200 Mlynedd’. Roedd hi’n wych gweld diddordeb a brwdfrydedd y plant, ac rydym ni’n edrych ymlaen at eu gwahodd yn ôl i’r campws yn y dyfodol i weld canlyniadau eu gwaith caled.”