Roedd croeso i ddisgyblion a rhieni blynyddoedd 6 y dalgylch ac am y tro cyntaf erioed, bu yna ddisgyblion o flynyddoedd 5 yn bresennol hefyd i ddynodi dechrau eu taith o bontio i’r ysgol uwchradd.
Bu yna weithgareddau amrywiol ymlaen yn yr ysgol, o greu bathodynnau, i ddweud y tywydd a hyd yn oed antur yn yr eira a llawer iawn mwy. Roedd hefyd yn ddiddorol gweld y pynciau newydd sy’n cael eu cynnig yn yr ysgol gan gynnwys moduro a thrin gwallt.
Wrth ymlwybro ar hyd yr ysgol, bu disgyblion a rhieni yn edrych ar wahanol gyrsiau sydd ar gael yn yr ysgol yn ogystal â’r clybiau amrywiol sydd ar gael fel rhan o gynllun prynhawnau lles yr ysgol neu ar gael yn allgyrsiol.
Pennaeth blwyddyn 7 a dros bontio o flwyddyn 6 yw Mrs Rhian Wyn-Morris:
“Braf oedd croesawi disgyblion 5 a 6 ein dalgylch i’r Ysgol. Roedd naws hyfryd drwy’r adeilad ac yn hyfryd i weld wynebau’r disgyblion yn cyffroi wrth ymweld â gwahanol adrannau. Edrychaf ymlaen at eich croesawu ar gyfer y gweithgareddau pontio nesaf sydd ar ein calendr.”
Medd Pennaeth yr Ysgol, Mrs Jane Wyn:
“Roedd yn bleser croesawu disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 y dalgylch a’u rhieni i’r Ysgol. Fel Ysgol Gydol Oes, mae Ysgol Bro Pedr bob amser yn ceisio cynnig profiadau pontio cyfoethog er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn edrych ymlaen yn eiddgar at y cam nesaf yn eu siwrne addysgiadol”.
Bu yn noson gyffrous iawn wrth groesawu disgyblion a rhieni blynyddoedd 5 a 6 i’r ysgol am y tro cyntaf am y tro cyntaf ers cyn Cofid ac roedd yn noson dra gwahanol i’r arfer gyda bwrlwm ym mhob adran.
Dyma rai o luniau’r noson: