Adnewyddu hen ysgol Llanybydder

Prosiect cyffrous i’r ardal

gan Gwyneth Davies
Hen-ysgol-Llanybydder.jpg

Mae hen Ysgol Llanybydder wedi derbyn £20,000 o grant o Gronfa Refeniw Cyngor Sir Gâr i gyflogi Swyddog Datblygu ar gyfer prosiect cyffrous iawn yn hanes yr adeilad.  Caewyd drysau’r ysgol yn y 70au, ac ym 1998  penderfynodd y Cyngor Sir werthu’r lle gyda’r posibilrwydd y gallai gael ei brynu gan ddatblygwr eiddo. Gan y byddai hynny wedi bod yn siom i nifer o’r ardalwyr, gofynnodd Ieuan Davies, y cynghorydd ar y pryd, i’r Cyngor am amser i godi’r arian angenrheidiol er mwyn galluogi’r pentref i brynu’r adeilad. Ar ôl derbyn nifer o grantiau amrywiol, llwyddwyd i gyrraedd y targed ac roedd hynny’n newyddion da i bawb.

Wrth i fudiadau megis y clwb ieuenctid ddefnyddio’r adeilad, agorwyd drysau ar gyfer grantiau pellach. Yna, tua saith mlynedd yn ôl, derbyniwyd grant sylweddol o’r Cyngor Sir ac ar ôl sawl cyfarfod cyhoeddus, penderfynwyd defnyddio’r arian i adnewyddu’r hen ysgol. Datblygwyd cefn yr adeilad gan gynnwys y gampfa a oedd yno’n barod ac adeiladwyd ystafell ychwanegol ar y llofft ar gyfer cyfarfodydd yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer babanod, toiledau a chawod.

O fewn y blynyddoedd diwetha, mae Llanybydder wedi dod yn rhan o gynllun ‘Ten Towns’ Sir Gâr sy’n golygu bod y pentref yn gymwys ar gyfer derbyn cymorth ariannol. Penderfynwyd felly defnyddio rhan o’r arian yma i wneud gwelliannau pellach i’r hen ysgol. Mae arian o’r cynllun hwn eisoes wedi ei ddefnyddio ar gyfer y WeFibre a’r stondinau yn y mart ceffylau.

Amcangyfrifwyd y byddai’r prosiect cyfan yn costio tua £200,000 ond ar ôl derbyn nifer o grantiau, gobeithir cyrraedd y targed yn fuan a dechrau ar y gwaith adnewyddu yn Haf 2024. Bydd angen cyflogi ‘Quantity Surveyor’ i drefnu’r gwaith adeiladu a chyflogi adeiladwyr. Bydd Swyddog Datblygu y prosiect ar gael i ddatblygu unrhyw sefydliad arall yn y pentref hefyd.

Dywedodd Ieuan Davies:

‘Ry’n ni’n bedwar ‘trustee’ i gyd  – fi, Nicola Doyle, Helen Evans a Sarah Selby ac ry’n ni’n gwneud ceisiadau ar gyfer grantiau gan gwrdd yn fisol fel arfer. Mae’r gampfa, sy’n llewyrchus dros ben, wedi bod gyda ni ers blynyddoedd ond ar hyn o bryd, y tâl aelodaeth yw’r unig incwm.

Pan fydd yr adeilad wedi ei gwblhau, bydd gyda ni gegin, neuadd a llwyfan yn ychwanegol gyda chyfle wedyn i gynnal digwyddiadau gwahanol. Bydd y llofft hefyd yn hygyrch ar gyfer pobl ag anableddau corfforol.

Es i i’r hen ysgol ac mae’r adeilad felly yn agos iawn at fy nghalon. Mae’r cyfan wedi bod yn frwydr ond gobeithiwn yn fawr y bydd y fenter yn llwyddiannus yn y pen draw.’