Agoriad swyddogol Canolfan Lles Llambed

Mae’r Ganolfan Lles ar agor 8am – 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9am – 4pm ar ddydd Sadwrn a Sul

gan Siwan Richards

Cafodd Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan, y gyntaf o’i fath yn y sir, ei hagor yn swyddogol gan Lynne Neagle, AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

Wedi’i hariannu gan Grant Cymunedau ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion, mae’r ganolfan wedi ymrwymo i drawsnewid agwedd y sir at les cyfannol.

Gan addo dewis eang o wasanaethau wedi’u cynllunio i wella agweddau meddyliol, cymdeithasol a chorfforol unigolion, mae’r ganolfan hefyd yn ceisio hwyluso mynediad cynyddol i wybodaeth, cyngor a chymorth hanfodol am wasanaethau’r Cyngor i bobl y sir. Mae’r fframwaith cynhwysfawr hwn yn cyd-fynd ag amcan y Cyngor o Greu Cymunedau Gofalgar ac Iach gyda chymorth cyn gynted â phosibl, gan osgoi’r angen am ymyriadau statudol uwch.

Mae gwelliannau nodedig wedi’u gwneud i seilwaith y ganolfan, gan gynnwys amrywiaeth o gyfleusterau gyda derbynfa groesawgar, ystafelloedd amlbwrpas, ystafelloedd cyfarfod, ystafell sgiliau ymarferol gyda chegin, a thoiled ‘Changing Places’ gyda chawod, teclyn codi a gwely. Mae gwelliannau pellach, yn dilyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, wedi cyfarparu ystafell ffitrwydd o’r radd flaenaf, gan wella arlwy gweithgarwch corfforol craidd y ganolfan.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Roedd yn bleser croesawu’r Dirprwy Weinidog i’r Ganolfan Lles yn Llanbedr Pont Steffan heddiw ac iddi gael gweld sut yr ydym yn mynd ati i geisio gwneud pethau’n wahanol yng Ngheredigion. Rydyn ni’n gweld creu Canolfannau Lles fel agwedd allweddol ar gyflawni ein gweledigaeth o ddarparu gwerth am arian a gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog cynaliadwy, sy’n cefnogi economi gref ac amgylchedd iach, tra’n hyrwyddo llesiant yn ein trigolion a’n cymunedau.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: “Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â’r Ganolfan Lles yn Llanbedr Pont Steffan i weld sut mae’r cyfleusterau gwych hyn a’r gwasanaethau a ddarperir yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned. Mae’r mathau hyn o leoliadau yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles corfforol a meddyliol ein cymunedau yng Nghymru.

“Mae’r Ganolfan Lles yn enghraifft wych o sut mae cyllid Llywodraeth Cymru, yn yr achos hwn drwy ein Grant Hybiau Cymunedol, yn helpu i greu Cymru fwy cyfartal ac iachach lle mae gan bawb fynediad at wasanaethau i hybu eu hiechyd meddwl a’u lles.”

Mynegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid ei brwdfrydedd ynghylch y twf sylweddol mewn ymgysylltiad cymunedol ers ailagor y ganolfan yn gynharach eleni. Meddai: “Ers agor y Ganolfan Lles ym mis Mehefin eleni rydym wedi gweld ymateb cadarnhaol gan y gymuned wrth i fwy a mwy dod i ddefnyddio’r gwahanol adnoddau. Bydden i’n annog pobol Llambed a’r cylch i ymweld â’r Ganolfan a’r adnoddau a chael sgwrs gyda’r staff. Mae’r lle yn llawn adnoddau – rhywbeth i bawb.”

Bydd y Ganolfan hefyd yn darparu cyngor ar sgiliau a chyflogaeth, cymorth caledi a thai, gwasanaethau i bobl ifanc, cymorth i ofalwyr, Cysylltwyr Cymunedol a chymorth cynnar ar gyfer Iechyd Meddwl.

Mae Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan ar agor rhwng 8am a 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9am a 4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan: ceredigionactif.org.uk neu cadwch mewn cysylltiad drwy ein tudalen Facebook @HamddenLlambedLeisure.