Dau angel ar y goeden ar Sgwâr Llanbed a nifer yn brysur yn gosod goleuadau

Gosod coed a goleuadau Nadolig yn Llanbed bore ma

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae’r goeden Nadolig yn ei lle ar Sgwâr Harford erbyn hyn, y goleuadau Nadolig ar hyd y prif strydoedd a choed uwchben y siopau, diolch i’r angylion a fu’n brysur bore ma.

Gwelwyd peiriannau Teify Forge a Gwasanaeth Coed Llambed yn codi’r gweithwyr yn ddiogel er mwyn addurno’r dref ar gyfer y Nadolig.  Dylan Duddley yn sicrhau bod y gwifrau trydan yn gywir a phawb oedd yno yn cynorthwyo gan roi o’u hamser yn rhad ac am ddim er mwyn sicrhau awyrgylch hyfryd ar gyfer y siopwyr.

Criw y Siambr Fasnach yw’r pwyllgor craidd, ond gwelwyd masnachwyr Llanbed, cyn fasnachwyr, diffoddwyr tân ac aelodau Cyngor y Dref yn cynorthwyo.  Darparwyd lluniaeth i’r gwirfoddolwyr gan gaffi Conti’s.

Diolch yn fawr i chi gyd am ddod ynghyd ar fore Sul.  Barod nawr am y Noson Siopa Hwyr yn Llanbed nos Iau.  Bydd yna wledd i’r llygaid yn ogystal â digon o siopa Nadolig.