Angerdd un o raddedigion Llambed am archaeoleg tecstilau yn creu cyfleoedd newydd.

Graddiodd Debby Mercer o’r cwrs BA (Anrh) Celfyddydau Breiniol gyda Blwyddyn Sylfaen.

gan Lowri Thomas

Symudodd i Lambed ar ôl iddi brynu tyddyn a dewis y Drindod Dewi Sant Llambed oherwydd ei hymrwymiadau i’r tir a’r anifeiliaid.

Penderfynodd Debby astudio’r Celfyddydau Breiniol gan ei bod wedi bod yn gwau ac yn nyddu ers dros 10 mlynedd ac mae wedi bod â diddordeb mewn archaeoleg tecstilau erioed.

Meddai: “Fe wnaeth y Celfyddydau Breiniol fy ngalluogi i archwilio gwlân a thecstilau o sawl ongl a fy ngalluogi i osgoi ffasiwn! Unwaith y bydd y ffabrig yn dod yn rhywbeth, rwy’n colli diddordeb yn gyflym, fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gyrsiau tecstilau yn canolbwyntio ar ffasiwn, gan mai dyna’r agwedd fwyaf gweladwy ar decstilau.”

Roedd Debby wrth ei bodd â’i hamser fel myfyriwr, a’i hoff agwedd ar y cwrs oedd,

“Y rhyddid i ddewis! Trwy beidio â chael modylau craidd, gallwn deilwra fy ngradd fy hun oedd yn gweddu i’m diddordebau. Penderfynais ganolbwyntio ar decstilau hynafol a datblygiad gwlân.  Oherwydd y rhyddid hwn, roeddwn i’n gallu edrych ar ddofi defaid yn y cyfnod cynnar ym Mesopotamia, sut roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio iaith tecstilau mewn rhethreg wleidyddol, y diwydiant gwlân yng Nghymru yn yr 20fed ganrif ac edrych ar sut mae tecstilau’n cael eu cynrychioli a’u haddysgu mewn amgueddfeydd ac arddangosfeydd.”

Gyda chefnogaeth darlithwyr, cafodd ei hannog i archwilio meysydd gwlân a thecstilau o fewn modylau penodol. Fe wnaethant hefyd ei helpu i ddod o hyd i bynciau aseiniadau a oedd yn berthnasol i ganlyniad y modwl a’i diddordeb mewn tecstilau.

Rhoddodd y darlithwyr gyfle i Debby hefyd y tu allan i’r cwrs, i arddangos ei galluoedd i gynulleidfa ehangach, a dywedodd fod hynny wedi cynyddu ei hyder y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Dywedodd Debby ei bod hefyd wedi cael cynnig cyfleoedd megis gwirfoddoli fel mentor Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid (PAL), a hefyd meithrin cysylltiadau o fewn a thu allan i’r brifysgol, sydd i gyd wedi ei helpu i ddatblygu fel unigolyn a magu hyder.

Ar ôl graddio, mae Debby yn bwriadu parhau â’i hastudiaethau ac astudio am MSc mewn Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad.

Meddai: “Rwy’n gobeithio gweithio tuag at greu dyfodol cynaliadwy trwy ddefnyddio fy ngwybodaeth hanesyddol a’m cefndir yn y Dyniaethau i ennyn diddordeb y cyhoedd mewn gwlân fel adnodd cynaliadwy, adnewyddadwy a hefyd cynyddu ei werth economaidd i ffermwyr Cymru .”

Dywedodd Debby y byddai’n annog eraill i astudio’r un cwrs â hi yn Llambed.

“Y BA Celfyddydau Breiniol yw’r radd orau erioed y gallwch ei “dylunio eich hun”. Gallwch chwarae gyda syniadau a throi at y darlithwyr yn gynnar os bydd rhywbeth yn mynd ychydig o’i le. Fe gewch lawer o gefnogaeth a gallwch wneud rhywbeth gwirioneddol unigryw a fydd o fudd gwirioneddol i fywyd ar ôl y brifysgol,” ychwanegodd.