Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i mi cael fy newis i Garfan Rygbi Merched Cymru dan 18 oed.
Ar ôl wythnosau o ymarfer fel carfan roedd y siwrne i Coleg Wellington yn Swydd Berkshire yn un cyfforus iawn. Roedden ar ein ffordd i dwrnament y chwe gwlad i ferched dan 18 ac yn barod i ddangos beth roedden ni fel carfan wedi bod yn ymarfer dros yr wythnosau diweddar.
Roedd y lleoliad yng Ngholeg Wellington yn un gwych, roedd y cyfleusterau yn ben i gamp ac yr oedd y braf cael aros yn yr un campws â’r gwledydd eraill ac i gymysgu a dod i’w hadnabod nhw.
Rhannwyd y twrnament dros dri diwrnod. Y diwrnod cyntaf roeddwn yn chwarae dwy gêm o 35 munud yn erbyn Lloegr a’r Alban. Colli oedd ein hanes yn erbyn Lloegr 10 – 0 mewn gêm gorfforol a chyffrous iawn. Ein gelynion nesaf oedd Yr Alban, enillwyd y gêm hyn 17-7. Roedd yn gêm gyflym a chorfforol iawn wrth i sawl cais cyffrous iawn cael eu sgorio.
Roedd ein ail diwrnod o gystadlu yn ddiwrnod mawr wrth i ni wynebu Yr Eidal a Ffrainc sef un o’r timoedd gorau yn y gystadleuaeth. Ffrainc oedd ein her cyntaf, ar ôl cystadlu’n galed mewn gêm gorfforol iawn gwnaethom ildio 1 cais yn erbyn y Ffrancwyr i wneud y sgôr yn 7-0 ar y chwiban olaf. Yr ail gêm ar ddiwrnod dau oedd yn erbyn yr Eidawyr. Cefais fy synnu ar eu cario caled, yn ogystal â hynny roeddent yn dîm corfforol iawn. Gorffenodd y gêm yn 7-0 i’r Eidalwyr. Credaf mai dyma’r golled caletaf yn ystod y bencampwriaeth wrth i ni adael llawer o gyfleoedd allan ar y cae.
Roedd ein gêm ar y diwrnod olaf yn gêm llawn o 70 munud yn erbyn y Gwyddelod. Roedd canu’r anthem o flaen fy’n nheulu yn brofiad emosiynol iawn. Dyma oedd ein siawns olaf i rhoi ein perfformiad gorau fel tîm. Dechreuais y gêm hyn ar y fainc. Roedd yn brofiad nerfus iawn wrth eistedd a gwylio’r tîm yn chwarae, ond yn her roeddwn yn barod i wynebu. Ar ôl bod lawr 12-0 hanner amser cefais yr alwad i ddod ymlaen i’r cae. Roedd yn gêm agos iawn wrth i’r naill dim fedru ennill y gêm. Roedd yn gêm gorfforol iawn wrth i sawl tacl caled gael ei roi. Gyda phum munud i fynd a’r sgôr yn 17-12 i’r Gwyddelod doedden ni fel tîm ddim eisiau gadael yr holl waith caled i fynd i golli. Ar ôl i Iwerddon ilio cic gosb ar ôl cic gosb yn yr eiliadau diwethaf cawsom gais i ennill y gêm 17-19. Roedd yn deimlad gwych i allu dathlu gyda’r garfan i gyd ac i ennill dros ein gwlad.
Mae’r ddau fis diwethaf wedi bod yn brofiad y gwna i fyth anghofio. Does dim geiriau i gael i esbonio’r teimlad o wisgo crys rygbi eich gwlad a chanu’r anthem!