Arddangosfeydd Haf Canolfan Cwiltiau Cymreig, Llanbedr Pont Steffan

‘Sut Ydych Chi!’, ‘Gwelyau Bychain: Mân Gwiltiau’ a ‘Mynyddoedd Cymru a Byd Natur’

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_4777

Arddangosfa ‘Sut Ydych Chi!’ Jen Jones

IMG_4774

‘Sut Ydych Chi!’ – rhai o’r cwiltiau lliwgar

IMG_4791

Arddangosfa ‘Gwelyau Bychain: Mân Gwiltiau’ Vivien Finch

IMG_4773

Agoriad Mynyddoedd Cymru a Byd Natur’ (o’r chwith i’r dde) – Jenny Williamson, Jonah Evans, Stuart Evans a Maer Llanbed Rhys Bebb Jones

IMG_4802

Arddangosfa ‘Mynyddoedd Cymru a Byd Natur’ – gweithiau Stuart Evans a Jenny Williamson

IMG_4803-2

Arddangosfa ‘Mynyddoedd Cymru a Byd Natur’ – gwaith Jonah Evans

IMG_4808

Jen Jones gyda’r Faeres Shan Jones a’r Maer Rhys Bebb Jones

Ydych chi wedi gweld arddangosfa ddiweddaraf Jen Jones, ‘Sut Ydych Chi!’ eto? Cynhelir yr arddangosfa yn Oriel 1 hyd ddydd Sadwrn 28ain Hydref. Arddangosir casgliad sylweddol o wahanol gwiltiau o bob maint, yn liwiau llachar a phatrymau cywrain, a rhai heb eu harddangos ers blynyddoedd. Mae rhan o’r arddangosfa yn egluro’r gwahanol gamau – y golchi a’r gwaith glanhau, y gwaith adfer a chadwraeth arbenigol – sy’n aml yn angenrheidiol cyn gellir arddangos cwilt. Diolch i Jen Jones am godi cwr y llen ar hanes cyfoethog ei chasgliad o gwiltiau.

Cewch eich cyfareddu hefyd gan arddangosfa Vivien Finch, ‘Gwelyau Bychain: Mân Gwiltiau’ yn Oriel 2. Mae’n cyfuno ei gwaith o gynhyrchu cwiltiau bychain gyda’i chasgliad sylweddol o welyau ar gyfer doliau. Mae hefyd yn arddangos rhai cwiltiau wnaed ganddi o ddefnyddiau Laura Ashley oedd ganddi gartref. Cewch weld yno ychwaneg o’r cwiltiau yng nghasgliad Jen Jones.

Yr arddangosfa ddiweddaraf yno yw ‘Mynyddoedd Cymru a Byd Natur’ (‘Welsh Mountains and Wildlife’) agorwyd gan Faer Llanbed Rhys Bebb Jones 21ain Gorffennaf. Dyma ddoniau un teulu sef y crochenydd Jenny Williamson, yr arlunydd Stuart Evans a’r arlunydd Jonah Evans. Dyma’r tro cyntaf i’r tri arddangos gyda’i gilydd ac yn dangos creadigrwydd y teulu amryddawn yma. Mae printiau leino Stuart yn olygfeydd trawiadol o’r ardal oddi amgylch Cader Idris. Mae Jonah yn fyfyriwr celf gain ym Mryste ac mae ei brintiau leino o adar megis yr hebog a’r dylluan yn wefreiddiol. Mae crochenwaith Jenny, yn blatiau a phowlenni, yn hyfryd ac mae eu gwaith ar werth.

Cymerwch y cyfle i weld yr arddangosfeydd yn Llanbedr Pont Steffan yr haf hwn. Cewch mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd a’r Ganolfan Cwiltiau ar eu gwefan: https://www.welshquilts.com/