Roedd yn amhosib i dynnu unrhyw arian parod o beiriannau twll yn y wal yn Llanbed am gyfnod dros y penwythnos.
Ar ben hynny, doedd y peiriannau talu â cherdyn newydd yn Premier Siop y Gymuned ddim yn gweithio nos Sadwrn gan adael cwsmeriaid heb ffordd i dalu am nwyddau angenrheidiol.
A ydyn ni wedi cael ein hamddifadu o wasanaethau ariannol felly wedi i dri banc gau yn Llanbed a mynd â’r peiriannau twll yn y wal gyda nhw? Does dim peiriant arian gan Fanc Lloyds, Barclays na NatWest bellach yn y dref.
Roedd negeseuon uniaith Saesneg o ymddiheuriad ar beiriannau HSBC ar Sgwâr Harford ac archfarchnad Sainsbury’s, a pheiriant archfarchnad Co-op ddim yn gweithio.
Adroddodd Nia Evans o Lanbed am ei thrafferthion hi neithiwr,
“Fe es i Premier a roedd y peiriant talu ’da carden nhw ddim yn gweitho, felly es i at ei cash point nhw tu fewn ond roedd yn wag. Wedyn es i HSBC a roedd hwnw heb arian chwaith!! Draw i Sainsburys wedyn a neges ar y sgrin yn dweud ‘sorry no cash’. Lawr yn Coop roedd pishyn o bapur wedi stico arno yn dweud ‘out of order’.
Roedd hyn yn nyts, achos beth os fyddai’r peiriannau talu da carden ddim yn gweitho yn y dref i gyd a dim arian yn y cash point. Os na fydde arian wedi bod gyda fi gartre fyddai dim modd i mi prynu bwyd. A hefyd ma’r plant yn gofyn am arian i fynd i’r Siop.”
Dywedodd y weithwraig yn siop Premier fod y peiriannau i gyd yn gweithio yno heddiw ac roedd peiriannydd yn trwsio peiriant twll yn y wal Co-op bore ma.