Atal parcio ‘anawdurdodedig’ ym Meddygfa Llanbed

Lansio cynllun i sicrhau parcio i gleifion yn unig. 

gan Ifan Meredith
IMG_2102

Mewn datganiad, mae Meddygfa Llanbed wedi galw’r parcio presennol gan bobl nad ydynt yn mynychu’r feddygfa yn “ddefnydd anawdurdodedig o faes parcio meddygfa Llanbedr Pont Steffan”.

Er mwyn atal hyn, cyflwynir gwasanaeth dan arweirniad Cymedithas Parcio Prydain sy’n dirywio pobl sy’n parcio’n anawdurdodedig ar dir preifat.

Esbonia’r datganiad mai eiddo preifat yw’r maes parcio i Grŵp Meddygol Bro Pedr ac felly i’w ddefnyddio gan bobl sy’n mynychu’r feddygfa.  Nid yw Fferyllfa Allied Pharmacy yn rhan o’r grŵp ac felly mae  defnyddo’r maes parcio i fynychu’r fferyllfa heb ei awdurdodi.

Yn dilyn apwyntiad, mae nawr disgwyl i gleifion symud cerbydau yn syth ac nid oes gan y rheiny sy’n gyrru rhywun i’r feddygfa yr hawl i aros yn y maes parcio.