Dechreuodd y chwarae mewn gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn Abergwaun ar yr 2il o Chwefror. Roedd hon yn gêm allweddol, gan mai nhw fyddai ein gwrthwynebwyr yn rownd nesaf y cwpan mewn pythefnos. Mae Abergwaun yn dîm sydd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y tymor, ac erbyn hyn wedi codi i’r 3ydd safle. Gyda’i mantais o chwarae adref, roedd hon yn sicr o fod yn gêm gystadleuol.
Roedd y tîm cartref yn defnyddio’r tîm cyfan i amddiffyn yn yr hanner cyntaf. Profodd Llanybydder hi’n anodd iawn i gael unrhyw le yn y cylch i fanteisio ar yr holl feddiant. 0-0 oedd y sgôr ar yr hanner. Yn wir, 0-0 y bu am y mwyafrif o’r gêm. Wrth i’r gêm fynd yn ei blaen, roedd Abergwaun yn tyfu mewn hyder. Gydag ond wyth munud i fynd, yn dilyn ergydiad wrth Abergwaun, gwyrodd y bêl oddi ar droed un o amddiffynwyr Llanybydder i mewn i gornel uchaf y gôl. 1-0 i Abergwaun. Roedd rhaid i Lanybydder ymateb ar frys os oeddent am gadw ei record o fod yn ddiguro trwy’r tymor i fynd! Gyda munudau yn weddill, o anlwc fe ddaeth lwc, gyda sefyllfa debyg yn codi ben arall y cae y tro yma! Gôl! Sgôr terfynnol, Abergwaun 1-1 Llanybydder. Roedd y rhyddhad yn amlwg ar wynebau bob un ohonom!
Yn dilyn yr holl ddrama i lawr yn Abergwaun. Gêm gartref yn erbyn yr ail yn y tabl, Penarth oedd yn ein hwynebu ar yr 11eg. Roedd hi’n 2-1 i Lanybydder ar yr hanner, gyda’r sgôr terfynol yn Llanybydder 4-2 Penarth. Y sgorwyr oedd Naiomi Davies, Catrin Evans a dwy gôl i Rhian Thomas. Diolchwn yn fawr i D.O & D.W Jones, Felinfach am noddi‘r gêm.
Roedd hi’n benwythnos llawn hoci i’r merched y penwythnos wedyn gyda gêm gynghrair yn erbyn Penfro ar 18fed, a gêm gwpan nôl yn Abergwaun ar 19eg.
Gêm digon sigledig oedd y gêm dydd Sadwrn yn erbyn Penfro. Serch hynny, yn dod i ffwrdd â buddugoliaeth, o drwch blewyn! Gyda’r goliau’n cael eu sgorio am yn ail rhwng y ddau dîm, y sgôr terfynol oedd Penfro 3-4 Llanybydder. Cafodd y ddwy Rhian Thomas afael ar y gôl, yn ogystal â Gwenllian Jones, y capten. Heb anghofio’r profiadol Lynwen Jenkins yn sgorio’r gôl holl bwysig i sicrhau’r fuddugoliaeth! Roedd hon yn foment arbennig iawn!
Gyda’n cyrff y clapian wedi’r gêm y diwrnod cynt, a’r cit prin wedi cael amser i sychu, yn ôl â ni i Abergwaun ar gyfer gêm Gwarter y Cwpan.
Roedd y gêm gyfartal ar ein hymweliad diwethaf yn glir yn y cof, felly, roedd pawb yn ymwybodol o’r dasg oedd o’m blaenau os am gipio’r fuddugoliaeth. Cafwyd gwaith tîm da a marcio safonol trwy gydol y gêm. Er i ni ildio mwy nag oeddwn yn dymuno yn y diwedd, roedd y fuddugoliaeth yn sâff! Sgôr terfynol Abergwaun 3-5 Llanybydder. Y sgorwyr oedd Naiomi Davies, Elen Powell, Rhian Thomas a dwy gôl i Luned Jones. Felly, ymlaen â ni i’r Rownd Gynderfynol yn erbyn y Bontfaen.
Nid ar chwarae bach mae ymrwymo i ddwy gêm oddi cartref mewn un penwythnos. Diolchwn i’r merched am eu hymroddiad a’u gwaith caled yn ystod y penwythnos ac mae’n braf iawn i allu dweud ei fod wedi talu ar ei ganfed.
Ydy, mae mis Chwefror wedi bod yn fis digon prysur, gyda mis Mawrth yn debygol o fod hefyd! Gan fod wyneb y cae yn Llanbed yn cael ei adnewyddu, bydd ein gemau cartref yn cael eu cynnal ym Mro Teifi tan ddiwedd y tymor. Gwernyfed fydd ein gwrthwynebwyr nesaf yn y gynghrair, gyda’r gêm yn cymryd lle dydd Sadwrn Mawrth 4ydd.
Croeswn ein bysedd am ragor o fuddugoliaethau!