Barcud coch, 26 oed wedi ei ddarganfod yn Llanybydder

Y barcud coch hynaf erioed i oroesi yn y gwyllt

gan Gwyneth Davies

RSPCA

Cafodd barcud coch, a oedd wedi ei anafu, ei ddarganfod gan un o breswylwyr Llanybydder nôl ym mis Gorffennaf. Erbyn hyn, mae’r aderyn 26 oed wedi cael ei nodi fel y barcud coch hynaf torchog i oroesi yn y gwyllt. Cysylltwyd â’r RSPCA gan nad oedd yr aderyn yn gallu hedfan a gofynnwyd i’r Swyddog bywyd gwyllt, Ellie West, ei asesu. Rhoddodd hi rif modrwy’r barcud coch i’r Ymddiriedolaeth Adareg Prydeinig (BTO).

Ddiwedd mis Medi dywedodd y BTO bod yr aderyn yma wedi’i fodrwyo ar Fehefin 20, 1997. Roedd wedi goroesi 9,518 o ddiwrnodau, sy’n golygu mai’r dyna’r barcud coch hynaf y gwyddom amdano ym Mhrydain ac Iwerddon. Yn anffodus, nid oedd modd achub yr aderyn oherwydd cyflwr ei iechyd.

Dywedodd Ellie:

“Roedd hwn yn aderyn mor brydferth a gallwn ddweud ei fod yn oedolyn ac o oedran da. Er nad oedd yn dioddef o ffliw’r adar, roedd mewn cyflwr gwael ac roedd hynny’n peri gofid.

Allwn i ddim credu’r peth gan fod yr aderyn hwn yn 26 oed ac fe’i cafwyd yn yr un ardal fwy neu lai ag y’i modrwywyd yr holl flynyddoedd yn ôl.

Mae’n drist na wnaeth yr aderyn oroesi ond o leiaf wnaeth e ddim dioddef marwolaeth hir. Rwy’n siŵr ei fod wedi cael bywyd llawn a byddai’n hyfryd meddwl efallai ei fod wedi magu sawl epil dros y blynyddoedd yn yr ardal hefyd – er nad yw’r rhyw yn hysbys.”

Dywedodd Lee Barber, Trefnydd Arolygon Demograffig y BTO:

“Dyma’r barcud gwyllt coch hynaf ym Mhrydain ac Iwerddon. Yn rhyfeddol, dyma’r tro cyntaf i ni dderbyn unrhyw adroddiad am yr aderyn hwn ers iddo gael ei fodrwyo nôl ym 1997 – 26 mlynedd a 22 diwrnod yn ôl.

Mae derbyn adroddiadau am adar torchog fel hyn yn ein helpu ni i gael gwell dealltwriaeth o boblogaethau adar ledled y DU.

Lwcus bod yr aderyn yn gwisgo modrwy neu ni fyddai’n bosib i ni wybod ei oedran. Os dewch chi ar draws aderyn sydd wedi ei fodrwyo, cysylltwch ag www.ring.ac er mwyn i ni allu ei fonitro. Gall fy nghydweithwyr yn BTO roi hanes bywyd yr aderyn i chi wedyn.”