Cafwyd prynhawn braf ar ddydd Sul, 28 o Fai i daith gerdded Eglwys y Bedyddwyr Bethel, Silian er budd elusen Cymorth Cristnogol. Trefnwyd y daith gan Beryl Williams ac Alun Jones. Aeth 22 o unigolion i Fferm Denmark ger Llambed.
Hyd y gwyddon ni – ac yn anarferol i’r ardal hon – nid oedd enw Cymraeg ar Fferm Denmark erioed. Sefydlwyd y fferm rywbryd rhwng 1799 a 1819 gan John Jones, Cymro lleol. Roedd Mr Jones yn byw yn Llundain ar y pryd yng nghyffiniau Denmark Hill (sy’n dal i fodoli heddiw). Y gred yw, ar ôl iddo wneud ei ‘ffortiwn’ yn Lloegr, dychwelodd Mr Jones i’w famwlad hoff i ddechrau ffermio. Mae pobl leol yn cyfeirio ati’n syml fel ‘Denmark’.
Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark yn le ble mae bywyd gwyllt wrth wraidd popeth maint yn ei wneud ac yn lle i’w fwynhau gan deuluoedd a charedigion byd natur, cadwraethwyr a rheolwyr tir.
Dilynwyd y llwybrau hunan-dywysedig yn mynd â chi drwy wahanol gynefinoedd gan adael i chi brofi’r amrywiaeth o fywyd gwyllt o gwmpas y 40 erw safle.
Buom yn ymweld â lloches y tŷ crwn yn y coed, ac un o’r adeiladau pren hardd fel y lloches ar lan y llyn. Mae pob adeilad wedi’i wneud gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a deunyddiau o ffynonellau cynaliadwy lle bynnag bo’n bosibl.
Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark yn cynnig gwyliau ac amryw o gyrsiau i ddysgu sgiliau a chrefftau gwledig, yn ogystal â mynd am dro ar hyd dolydd llawn bywyd gwyllt i’r llynnoedd a’r coedlannau.
Cafwyd prynhawn pleserus iawn a bydd y rhoddion yn mynd at apêl Cymorth Cristnogol.