Mae’r amser o flwyddyn wedi dod eto i aelodau’r CFfI gamu i’r llwyfan ar gyfer cystadlaethau eisteddfod yr CFfI 2023!
Efallai bod hi’n arw ac oer tu allan ond cewch groeso cynnes wrth ddarllen y diweddaraf o glybiau Bro’r Dderi, Llanwennog, Llanddewi Brefi a Phontsian o’r Eisteddfod ar flog byw Clonc360.
Os eich bod chi’n mynychu’r eisteddfod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, cofiwch ychwanegu i’r blog byw- mae’n rhwydd!
Canlyniad nesaf yw’r Llefaru unigol dan 16 oed:
1. Fflur McConnell, Mydroilyn
2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Mydroilyn
3. Caoimhe Melangell Pennant, Talybont
Y canlyniad nesaf yw’r Unawd 16 oed neu iau:
1. Fflur McConnell, Mydroilyn
2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Mydroilyn
= 3. Gwennan Owen Pontsian
= 3 Efan Evans, Pontsian
Y gystadleuaeth nesaf yw’r Llefaru unigol dan 21.
Canlyniad nesaf y dydd yw’r Llefaru 13 oed neu iau:
1.Magw Fflur Thomas, Pontsian
2.Anni Grug Lewis-Hughes, Tregaron
3.Meia Elin Evans, Trisant
Cystadleuaeth sydd ymlaen nawr yw’r unawd dan 28 gyda 6 yn cystadlu.
Canlyniad cyntaf y dydd seg yr Unawd dan 13oed:
1af Magi Jones Trisant
2il Celt Dafydd Mydroilyn
3ydd Gwennan Owen Pontsian
Unawd dan 16 wedi cychwyn ac Alwenna Owen o Glwb Pontsian yw’r ail i gystadlu.
Elin Calan Jones, Cadeirydd y Sir yn agor yr Eisteddfod bore ’ma.
Croeso i Eisteddfod CFfI Ceredigion.
Llywydd yr Eisteddfod yw Mrs Tydfil Jones.
Beirniaid yr Eisteddfod yw:
Cerdd : Eleri Owen Edwards
Llefaru : Ann Davies
Ysgafn : Owen Davies
Llenyddiaeth : Mererid Hopwood
Alaw Werin a Cherdd Dant : Manon Mai Rhys-Jones
Dawnsio : Sioned Hâf Thomas
Mae’n bleser gan Clonc360 ddod â Blog Byw i chi o Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc eleni eto. Rydym wedi gofyn caniatad y clybiau yn ardal Clonc360 am ganiatad i gyhoeddi lluniau. Diolch i bawb sy’n cyfrannu i’r Blog heddiw a phob lwc i bawb sy’n cystadlu.
Os nad yw canlyniadau eich clwb chi ar Flog Byw Clonc360, cofiwch roi hynny ar wefan fro eich ardal chi. Gallwch weld gwefan fro i bob clwb yn y sir sef Aeron360, Caron360, Carthen360, BroAber360, BroCardi360 a Cwilt360.