Blog Byw Eisteddfod CFfI Ceredigion

Y diweddaraf o ardal Clonc360 o Eisteddfod CFfI Ceredigion ar flog byw Clonc360!

gan Ifan Meredith

Mae’r amser o flwyddyn wedi dod eto i aelodau’r CFfI gamu i’r llwyfan ar gyfer cystadlaethau eisteddfod yr CFfI 2023!

Efallai bod hi’n arw ac oer tu allan ond cewch groeso cynnes wrth ddarllen y diweddaraf o glybiau Bro’r Dderi, Llanwennog, Llanddewi Brefi a Phontsian o’r Eisteddfod ar flog byw Clonc360.

Os eich bod chi’n mynychu’r eisteddfod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, cofiwch ychwanegu i’r blog byw- mae’n rhwydd!

22:46

Y nesaf i gystadlu yw Steffan Rees o glwb Pontsian yn gwneud stand-yp yng nghystadleuaeth ‘Dangos eich Doniau’. 

22:42

Cystadleuaeth newydd ‘Dangos eich Doniau’ yw’r nesaf ar y llwyfan a dyma Llanwenog yn canu a chwarae’r Wcwlele. 

22:30

I gloi cystadleuaeth y Ddeuawd neu Driawd Doniol yw Triawd Pontsian yn canu am raglen ‘Am Dro’ ar S4C. 

22:17

IMG_4844CFfI Ceredigion
IMG_4845

Canlyniad y Sgets:
1.Llangwyryfon
=2Tregaron a Pontsian
=3 Caerwedros a Llanddewi

21:55

Y gystadleuaeth nesaf yw’r ddeuawd neu driawd doniol a dyma glwb Llanddewi Brefi yn canu am boendod newid cyfyngder cyflymder 20 mya newydd Llywodraeth Cymu. 

20:38

I gloi cystadleuaeth y Sgets mae sgets Llanddewi Brefi yn ceisio cynnal Seremoni Cadeirio!

20:22

Sgets Llanwenog yn sôn am eiddo coll yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Dylan Iorwerth yn colli ei Olwg. 

20:18

Cystadleuaeth y Sgestsys wedi cychwyn a dyma Sgets CFfI Pontsian. 

20:03

Canlyniad y Parti Llefaru:

1. Pontsian

2. =Lledrod a Llanwenog

3. =Mydroilyn a Thregaron

19:55


Canlyniad y Ddeuawd dan 28 oed:

1. Cadi a Beca, Talybont

2. Ianto ac Ela, Felinfach

3. Alwena a Gwennan, Pontsian

Canlyniad yr Ensamble Lleisiol hyd at 9 mewn nifer:

1. Felinfach

2. Llanwenog

3. Troedyraur