Mae Claire Mayes a agorodd caffi ‘Joio’ yn Llanbed ym mis Gorffennaf wedi cyhoeddi y gallai helpu rhieni i fwydo’u plant dros wyliau’r haf.
Dywedodd Claire,
“Rwy’n gwneud hyn gan fod y gwyliau’n hir a’r plantos yn bwyta fel does dim yfory i gael. Os oes unrhyw un yn cael trafferth gyda rhoi bwyd i’r rhai bach, gallan nhw anfon neges neu alw mewn a gofyn am Elyse, Ellie neu finne. Dangoswch y stori hon i ni yn dawel bach ac fe drefnwn ni bryd o fwyd plant i chi. Fyddwn ni ddim yn gofyn unrhyw gwestiynau.”
Mewn cyfnod lle mae busnesau yn ei gweld hi’n anodd i gadw dau ben llinyn ynghyd, heb son am fusnes newydd fel hyn, mae Claire yn dangos caredigrwydd mawr. Ychwanegodd Claire, sy’n fam i ddau o blant ei hunan,
“Rydyn ni i gyd wedi cael diwrnodau lle mae arian wedi dod i ben ac yn brwydro tan y diwrnod cyflog nesaf.”
Lleolir caffi ‘Joio’ yn hen gaffi Minds Eye yn Stryd y Bont, Llanbed lle gweinir te, coffi, diodydd meddal, hufen iâ, cacennau, paninis a toasties blasus.
Hefyd bydd ‘Joio’ yn cynnig Blychau Rhy Dda i Daflu am ddim dros wyliau’r haf sef cynnig unrhyw fwyd sydd dros ben ar ddiwedd y dydd i bwy bynnag fydd eu hangen. Mwy o fanylion i’w cyhoeddi ar dudalen facebook ‘Joio’.
Rhaid canmol Claire am wneud y fath gynigion gan gynorthwyo eraill, a dymunwn yn dda iddi gyda’r fenter newydd.