Ar ôl blynyddoedd o fasnachu, mae perchnogion busnes Compass Office Supplies wedi penderfynu dod â’r busnes i ben. Serch hynny, megis dechrau mae gyrfa rhai o ddisgyblion busnes blwyddyn 10 Ysgol Bro Pedr gyda llwyddiant diweddar yn rownd ranbarthol cystadleuaeth Menter yr Ifanc.
Yn ystod y cyfnod o fasnachu, mae busnes Compass wedi bod ar Stryd y Coleg yn ogystal ag yn yr Stâd Ddiwydiannol ac mewn cyfweliad fel rhan o gyfres ‘Y Flwyddyn a Fu’, meddai’r perchnogion mai’r sialens fwyaf yn ystod Cofid oedd cael y stoc ar gyfer gwasanaethu eu cwsmeriaid.
Ond wrth i daith un o fusneswyr Llanbed ddod i ben, dim ond dechrau mae gyrfa busnes disgyblion blwyddyn 10 Ysgol Bro Pedr.
Fel rhan o gwrs busnes yr ysgol, mae gofyn i ddisgyblion ymchwilio i rediad llwyddiannus busnesau lleol ond her blwyddyn 10 dros yr wythnosau diweddaf oedd paratoi busnes gwreiddiol ar gyfer cystadleuaeth Menter yr Ifanc a gynhaliwyd ar ddydd Iau, y 30ain o Fawrth yng Ngholeg Sir Gâr.
“Llongyfarchiadau i’r disgyblion a fu’n cystadlu. Maent wedi gweithio’n galed ac wedi mwynhau’r broses.” Mrs Amanda Jones, Athrawes fusnes Ysgol Bro Pedr.
Enw busnes Bro Pedr oedd ‘Traed Lan’ ac yn enw priodol ar gyfer y syniad sef i greu troedfainc (footstool) allan o hen gês. Yn gyntaf, daeth y tîm o hyd i amrywiaeth o gesys gyda dyluniadau gwahanol. Yn ogystal, roedd gofyn i gyflwyno cyflwyniad am y busnes a lansio ar y gwefannau cymdeithasol.
“cystadleuaeth ranbarthol o’r safon uchaf”
Gareth Hughes yw Cydlynydd Cwricwlwm ôl-14 Cyngor Sir Ceredigion a oedd yn un o feirniaid y gystadleuaeth.
“Braf oedd gweld hyder y tîm yn eu cyflwyniad yn ogystal â chlywed am eu rheolaeth ariannol a gwaith tîm wrth ddatblygu a marchnata eu cynnyrch yn y cyfweliad.”
Braf oedd gweld hyder y tîm yn eu cyflwyniad yn ogystal â chlywed am eu rheolaeth ariannol a gwaith tîm wrth ddatblygu a marchnata eu cynnyrch yn y cyfweliad.
Ar ôl ennill categorïau’r Creadigrwydd ac Arloesedd a’r Adroddiad orau wrth iddynt esgyn i’r ail safle ac felly sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cymru a chynhelir ar y 25ain o Fai ym Mhrifysgol De Cymru.
Ar gyfer y rownd derfynol, mae’r tîm yn mynd i weithio ar werthu a chynhyrchu’r stoc. Mi fydd y troedfeinciau (footstools) ar gael i’w prynu ar Facebook, Instagram neu wrth gysylltu â’r ysgol.
Un aelod o’r tîm oedd Zoe Waddington sef y Cyfarwyddwr Cyllid.
“Stressful i gael popeth ar amser gan ein bod wedi datblygu mewn amser cyfunedig ond roedd yn braf gweld ein gwaith caled yn cael ei arddangos ar lwyfan rhanbarthol.”
Rheolwr Gyfarwyddwr y tîm oedd Brooke Lovell.
“Profiad da er mwyn cael dealltwriaeth o’r diwydiant. Wnes i fwynhau cyflwyno’r cynnyrch ar y llwyfan ddoe ond sialens fwyaf oedd meddwl am syniad i’r cynnyrch a’r enw.”