Bwnis Pasg yn dod â gwên i wynebau plant yr ardal heddiw

Gwneud Sul y Pasg yn fwy hudolus yn Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
A94C44A7-4A1F-4147-AAC1
F10F3899-027C-4634-9B14
838D0E02-560D-4329-92B1
B1204D96-90FF-4874-AA29
B9211C27-73BD-4B3F-BEB7
46784B5A-92B0-4796-86DC
EC0ADCF3-4174-41AF-947D
DD744B35-22A5-4EDB-ADB6
54BDDBA9-0995-46F3-B707
82FCC34D-26E1-45CB-907C
FEED6517-2765-4DCC-BAF6
503DF627-8CCA-4144-BC34
5FCA53B2-3ECA-438F-A99E
36FCE09B-89A2-4794-8946
2DC6FCF6-060F-4801-81EB

Golygfa hyfryd oedd gweld dau gymeriad cwningen y Pasg ar strydoedd Llanbed heddiw.

Laura Hunter o gwmni Magical Moments oedd yn gyfrifol am drefnu hyn a dywedodd:

“Rydyn ni newydd gyrraedd adref nawr. Diwrnod mor hyfryd a braf gweld y gwenau ar wynebau pawb.”

Ychwanegodd Laura “Penderfynais wneud hyn i ledaenu hwyl y Pasg a gwneud Llanbed yn lle hudolus ar Sul y Pasg eleni.  Rhoddwyd 65 o wyau allan. Cychwynnom yng Nghwmann a gorffen yn Llanwnnen.”

Magical Moments yw busnes Laura ac ethos y busnes yw gwneud pob eiliad o ben-blwydd, Nadolig neu Basg plentyn ychydig yn fwy hudolus.

Roedd ymweliad gan y bwnis yn costio £15 ond os oedd unrhyw deulu’n methu fforddio hynny, neu os oedd unrhyw un yn gwybod am blant oedd yn haeddu ymweliad ganddynt byddai Laura wedi dod i drefniant er mwyn gwireddu rhywbeth.