Cyhoeddodd perchnogion Conti’s yn Llanbed neges sobr iawn i’w cwsmeriaid y prynhawn ma.
“Oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym ni yn Conti’s Llanbed wedi gwneud y penderfyniad anodd, digynsail, a thorcalonnus i aros ar gau drwy gydol cyfnod y gaeaf sydd i ddod. Dyma’r tro cyntaf i ni orfod gwneud hynny yn ein hanes o 90 mlynedd.
Fel y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn ei werthfawrogi, rydym bob amser wedi anelu at ddefnyddio cynhwysion lleol o ansawdd uchel ar gyfer ein harlwy. Rydym yn benderfynol o beidio â gostwng ein safonau i barhau i fasnachu, ni fyddai hynny’n gyfeiriad teg na phriodol i’w gymryd. Mae cost cynhwysion crai wedi cynyddu’n aruthrol. Byddai codi prisiau afresymol angenrheidiol ar ein cwsmeriaid ffyddlon yn ormod o embaras a straen.
Mae yna hefyd y cynnydd enfawr mewn costau ynni i’w hystyried. Byddai cadw’r caffi’n gynnes a chyfforddus dros fisoedd y gaeaf yn rhy gostus, a does neb eisiau eistedd yn yr oerfel! A gadewch i ni beidio â sôn am y broblem o brinder staff cyson, cyson!
Ar ôl llawer o drafodaethau hir, teimlwn na allwn amsugno’r holl gostau ychwanegol hyn, tra’n parhau i fod yn fusnes proffidiol. Bydd Hufen Iâ Conti’s yn parhau fel o’r blaen, a Conti’s Llanerchaeron yn ail-agor ym mis Chwefror.
Gobeithiwn y gallwch weld pethau o’n safbwynt ni; efallai gan ddeall a chydymdeimlo â’n sefyllfa. Gobeithio bydd sefyllfa economaidd bresennol y wlad yn gwella’n fuan, a byddwn i gyd yn goroesi’r dirwasgiad brawychus hwn.
Os felly, byddwn yn aros i’ch croesawu yn ôl eto gyda breichiau agored a phaned hyfryd o goffi! Diolch am eich dealltwriaeth.”
Mae Conti’s yn un o’r busnesau hynaf yn Llanbed a leoli’r ar Sgwâr Harford. Mae’n adnabyddus iawn am ennill gwobrau cenedlaethol am hufen iâ blasus.
Ond dyma ergyd arall i Lanbed. Dydy Pantri ddim wedi ail agor wedi’r cyfnod clo ac mae Sosban Fach ar werth. Mae Gwesty’r Castell hyd yn oed ar gau.
Cytuna pawb fod hyn yn newyddion trist ofnadwy i drigolion Llanbed a chafwyd negeseuon caredig gan gwsmeriaid y prynhawn ma ar facebook.
Ai dyma batrwm o beth sydd i ddod yn ein trefi ni? Oes lle gan bawb ohonom i gefnogi siopau bach hyd yn oed yn fwy yn ystod yr amserau anodd yma? Prysured y dydd pan fydd bywyd nôl yn yr hen le hyfryd.