Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn croesawu canlyniadau ‘Rhoi dy farn 2023’

Ifan Meredith o Lanbed yn gweld y canlyniadau sy’n dangos pryderon pobl ifanc yr ardal yn ddiddorol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
06F4FD7B-A8C3-4FFF-959A

Pleidleisiodd mwy na 2,000 o bobl ifanc Ceredigion dros y pynciau sydd bwysicaf iddyn nhw ym mhleidlais ‘Rhoi dy Farn 2023’.

Cydlynir hyn gan Wasanaeth Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion gan roi cyfle i bobl ifanc bleidleisio ar bynciau a fydd wedyn yn llywio blaenoriaethau’r Cyngor Ieuenctid yn ystod 2023.

Cymerodd 2,184 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ran ym mhleidlais Rhoi dy Farn 2023, a’r pynciau llosg gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau oedd ‘argyfwng costau byw’, gyda ‘gyrfaoedd’ yn ail, ac ‘addysg’ yn drydydd.

Un o Lanbed yw Ifan Meredith, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion a dywedodd: “Mae ymgyrch ‘Rhoi Dy Farn 2023’ wedi galluogi pobl ifanc ar draws y sir i ddatgan eu barn ar y materion sydd o bwys iddyn nhw. Diddorol yw gweld y canlyniadau yma sydd yn dangos pryderon pobl ifanc yr ardal ac mae’r Cyngor Ieuenctid yn barod i ymateb ac i holi’r bobl mewn grym am y materion yma.”

O edrych ar y materion hyn yn fwy manwl, mae’r bobl ifanc a gymerodd ran yn dymuno mwy o gefnogaeth gyda chostau cludiant, cinio ysgol ac ynni; mwy o ddewis o brentisiaethau sy’n talu’n well a mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith; dylid addysgu sgiliau busnes ac entrepreneuriaeth mewn ysgolion a’r angen i fysiau redeg yn hwyrach a bod yn fwy fforddiadwy, gwell cysylltiadau trên a gwell llwybrau beicio.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r pynciau mae pobl ifanc Ceredigion wedi’u codi yn bwysig iawn, sy’n cyfuno materion byd-eang a lleol. Rwy’n falch iawn gweld y Cyngor Ieuenctid yn gwneud gwaith arbennig wrth gasglu a thrin a thrafod y pynciau hyn, ynghyd â’u cyflwyno i gynulleidfa ehangach. Dyma faterion pwysig tu hwnt sy’n haeddu ystyriaeth bellach.”

Y cam nesaf i’r Cyngor Ieuenctid yw cyflwyno cyfres o gwestiynau mewn ymateb i ganlyniadau’r bleidlais, i banel o ffigyrau cyhoeddus.

Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i rannu llais pobl ifanc Ceredigion ynghylch materion sy’n bwysig iddyn nhw a wedi ei gynnal ers chwe mlynedd bellach.