Campws Llambed yn teimlo fel gartref

I Laura Cait Driscoll, MA mewn Arfer Treftadaeth, roedd dod i Lambed yn ddewis naturiol.

gan Lowri Thomas

Dywedodd Laura Cait o Dalywain ei bod wedi mynychu diwrnod agored a syrthio mewn cariad â’r campws yn llwyr.

“Gwnaeth y darlithwyr a’r staff y gwnes i gwrdd â nhw (boed yn borthorion, darlithwyr neu Ddeon y campws) werthu’r campws i mi ar y diwrnod gan eu bod mor gyfeillgar a chroesawgar;  roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith ,” meddai.

Penderfynodd Laura Cait barhau â’i thaith ddysgu yn Llambed ar ôl graddio gyda BA mewn hanes.

“Pan wnes i fy ngradd BA,  sylweddolais fy mod i wir yn mwynhau hanes cymdeithasol a’r portreadau o fewn amgueddfeydd, a arweiniodd fi i sylweddoli mai Treftadaeth oedd y ffordd ymlaen. Roedd y darlithwyr i gyd yn angerddol am eu pwnc a’u modylau a dyna werthodd y cwrs i mi.”

Roedd ymchwil Laura yn seiliedig ar ‘Ymdeimlad o Le: Sut mae Amgueddfeydd yng Nghymru yn Cynrychioli Mynd yn Ôl at Ein Gwreiddiau a Rhannu Ein Hanes Trwy Fwyd, gan edrych yn fanwl ar bob agwedd ar dretadaeth fwyd Cymru ar draws y wlad.

“Fe wnes i fwynhau gallu edrych yn fanylach ar y gwahanol sefydliadau sy’n gallu meithrin a hyrwyddo treftadaeth, o dwristiaeth i amgueddfeydd a phrifysgolion eu hunain.

“Mae dod o hyd i’m hangerdd academaidd a’m llais wedi ychwanegu’n fawr at y profiad. Astudiais y radd fel dysgwr o bell rhan-amser gan fy mod yn gweithio’n llawn amser yn Undeb y Myfyrwyr ac yn ddiweddarach gyda PLANED. Roedd y ffaith fod y cwrs yn hyblyg ac yn hygyrch ar-lein wedi rhoi’r opsiwn hwnnw i mi, o wybod y gallwn barhau â’m haddysg gyda darlithwyr mor gefnogol.”

Mae’r brifysgol wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad Laura Cait fel unigolyn. Mae hi wedi ennill sgiliau a gwybodaeth hanfodol sydd wedi cyfrannu’n fawr at ei thwf. Yn ogystal, mae cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol fel gwasanaethu fel swyddog rhan-amser, ffotograffydd ar gyfer y tîm rygbi ar y campws,  a gwirfoddoli, wedi gwella ei chyfleoedd, ei chysylltiadau a’i phrofiadau ymhellach. Helpodd hefyd i lansio’r ymgyrch ‘Bloody Hell’ ar y campws i helpu tlodi misglwyf.

Ychwanegodd: “Mae’r brifysgol yn lle mor groesawgar nes bod gallu datblygu fy ngwybodaeth am strwythurau Addysg Uwch, a gallu siarad â phob aelod o staff wedi helpu i ehangu cyfleoedd .”

Ar hyn o bryd mae Laura Cait yn gweithio i’r brifysgol o fewn yr adran INSPIRE fel swyddog Datblygu Ymgysylltu Dinesig, yn gweithio ar brosiectau ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin i integreiddio myfyrwyr yn fwy i’w cymunedau a thrwy gyfleoedd gwirfoddoli.

“Mae bod yn Llambed wedi fy helpu i syrthio mewn cariad ag ymgysylltu cymunedol wrth i mi wirfoddoli’n bersonol, yn fewnol ac yn allanol, yn ystod fy ngraddau. Mae hefyd yn gwneud i mi eisiau gweithio i ddatblygu’r cydlynrwydd hwnnw y gallai myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol hefyd ei gael.

“Mae Astudio Treftadaeth wedi helpu’n sylweddol tuag at fy rôl bresennol gan ei fod wedi fy ngalluogi i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o hanes lleol, traddodiadau a hunaniaethau diwylliannol. Mae’r wybodaeth hon yn fy helpu i  gysylltu ag aelodau o’r gymuned ar lefel ystyrlon, gan hyrwyddo deialog, cydweithredu a chyfranogiad cymunedol mewn prosiectau treftadaeth. Mae hefyd wedi fy helpu gydag eiriolaeth ac ymwybyddiaeth, cynllunio prosiectau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, sydd i gyd yn rhan annatod o greu cysylltiad ystyrlon i fyfyrwyr yn fy rôl .”

Mae hi eisiau cael myfyrwyr i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol a chydweithio wrth iddi ddatblygu ei sgiliau ei hun ymhellach. Ar hyn o bryd mae Laura wedi cofrestru ar Dystysgrif Ôl-radd mewn Sgiliau Menter ac NVQ lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad i geisio addasu ei gwaith i gefnogi cynifer o bobl â phosibl yn y dyfodol.

“Mae Llambed yn deulu. Rydych chi’n adnabod y rhan fwyaf o bobl p’un a ydyn nhw’n fyfyrwyr, yn staff neu’n bobl leol. Mae pawb yn rhan o gymuned mor arbennig sy’n gallu cydweithio mor dda.

I mi, dyna’r amgylchedd perffaith ar fy nhaith academaidd wrth i mi fod oddi cartref, felly roedd yn help mawr cael lle arbennig a oedd yn gartref oddi cartref.

“Yr hyn sydd hefyd yn arbennig iawn am Lambed yw pa mor agos at fyd natur ydyw. I rywun sy’n teimlo’n hamddenol allan yn yr awyr agored, mae cael afon a dôl ar y campws ac yna’r môr dim ond hanner awr i ffwrdd wedi bod yn berffaith i’m llesiant, yn enwedig pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig yn gweld eisiau gartref .”

Hoffai Laura Cait annog eraill i astudio yn Llambed.

“Os oes rhywun yn ystyried astudio yn Llambed, ewch amdani. Dewch i ymweld â’n campws yn gyntaf a theimlo drosoch eich hun os gallai hwn fod yn deulu ac yn gymuned i chi. Os ydych chi’n teimlo’n gartrefol, efallai mai dyma’r lle gorau i chi. Rydym wedi ein hamgylchynu gan natur a gall y campws fod yn hynod heddychlon. Mae hwn yn gampws mor gefnogol gyda chynifer o bobl anhygoel ac unigryw, mae’r gefnogaeth heb ei hail.

“Os hoffech chi astudio treftadaeth, pa le gwell i wneud hynny nag yn y brifysgol hynaf yng Nghymru sy’n cynnal ystod o ddigwyddiadau coffaol fel man geni rygbi yng Nghymru.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar yr holl gyfleoedd posibl os dewch chi yma a pheidiwch â bod ofn estyn allan i ddarganfod mwy. Mwynhewch eich profiadau. Campws bach yw Llambed, ond mae ei lais, ei agwedd, y bobl – maen nhw’n aruthrol.”