Disgyblion TGAU yn derbyn eu canlyniadau

Llongyfarch disgyblion Ysgol Bro Pedr am ganlyniadau TGAU.

gan Ifan Meredith

Llwyddodd 97.2% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau TGAU yng Ngheredigion dderbyn graddau A* i G, wrth i 24.8% ennill graddau A* – A. Mae’r ffigyrau yma i lawr o ganlyniadau llynedd wrth i’r sector addysg ddychwelyd i addysgu cyn-Cofid ac felly mae yna gydbwysedd eleni rhwng canlyniadau cyn-Cofid a rhai llynedd.

Mae ffigurau cymharol rhwng rhai cymedrol Ceredigion a Chymru i’w gweld isod.

Gradd A* – A

Ceredigion: 24.8%

Cymru: 21.7%

Gradd A* – C

Ceredigion: 68.6%

Cymru: 64.9%

Gradd A* – G

Ceredigion: 97.2%

Cymru: 96.9%

Mae canrannau Ceredigion ym mhob categori graddau yn uwch na chanrannau Cymru sy’n dangos y safon uchel o addysg sydd yn cael ei chynnig yng Ngheredigion.

Medd Clive Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion Ceredigion:

“Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion ar eu hymdrechion cydwybodol unwaith eto eleni. Braf iawn yw gweld canlyniadau mor gadarnhaol sy’n ffrwyth llafur cydweithio effeithiol rhwng pawb sy’n rhan o daith addysgol pob unigolyn. Mae gwaith diflino’r staff ar draws Ceredigion, cefnogaeth y rhieni/gwarcheidwaid a dyfalbarhad ein pobl ifanc i’w gydnabod a’i ddathlu.”

Aiff ymlaen i gydnabod llwyddiant gwaith “diflino’r staff ar draws Ceredigion, cefnogaeth y rhieni/gwarcheidwaid a dyfalbarhad ein pobl ifanc.”

Mewn ymateb i’r canlyniadau eleni, medd Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr:

“Rydym yn falch iawn o gyraeddiadau ein disgyblion. Mae’r disgyblion wedi dangos egni a dycnwch yn ystod eu hastudiaethau ac maent, gobeithio, yn falch o’r graddau TGAU maent wedi derbyn. Edrychwn ymlaen at groesawu nifer o’r disgyblion nôl i’r Chweched Dosbarth ym mis Medi a hoffwn ddymuno pob llwyddiant yn y dyfodol i’r disgyblion hynny sydd yn mynd ymlaen i golegau neu’r byd gwaith. Diolch i’r disgyblion, y rhieni, staff yr Ysgol a’r llywodraethwyr am eu holl gymorth a’u cefnogaeth unwaith eto eleni”. Mrs Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr.