Canolfan Creuddyn yn cefnogi Banc Bwyd Llanbed

Gardd gymunedol newydd yn agor yn Llanbedr Pont Steffan

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_5016-2Llun gan Andrew Edwards (Barcud)

Ben Lake AS a’r Cynghorydd Rhys Bebb Jones, Maer Llanbed yn agor yr ardd yn swyddogol.

IMG_5019Llun gan Andrew Edwards (Barcud)

Y gynulleidfa yn yr agoriad swyddogol gyda Ben Lake AS, Kim Stoddart a’r Cynghorydd Rhys Bebb Jones, Maer Llanbed yn y rhes flaen.

IMG_5008

Kim Stoddart (ar y dde) gyda rhai o’r gwirfoddolwyr sydd wedi trawsnewid yr ardd.

IMG_4985-1

Yr ardd wedi ei thrawsnewid.

IMG_4990-1

Yr ardd ar ei newydd wedd gyda’r ardal sefydlwyd i ddenu pryfetach (canol y llun).

IMG_4988

Yr ardal sefydlwyd yn yr ardd i ddenu pryfetach.

Mae’r ardd yng Nghanolfan Creuddyn yn cael ei thrawsnewid yn ardd gymunedol, diolch i bartneriaeth rhwng Barcud (perchnogion Creuddyn), Banc Bwyd Llanbed (mae eu swyddfa yn y Creuddyn) a’r arddwraig Kim Stoddart. Mae yna grŵp lleol o wirfoddolwyr brwdfrydig yn cynorthwyo’n wythnosol yn sefydlu’r ardd. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd yn y Creuddyn ers mis Mawrth 2022 tan arweiniad Kim i ddysgu am arddio a thyfu cynnyrch yn organig.

Mae Kim yn dangos i’r gwirfoddolwyr sut i blannu a gofalu am blanhigion o bob math – a chael hwyl wrth wneud hynny. Mae’n darparu’r holl ddeunyddiau angenrheidiol, yn offer, potiau, gwrtaith a phlanhigion. Dysgir beth ellir ei dyfu mewn gwahanol fathau o briddoedd ac am rinweddau gwahanol berlysiau a sut i’w tyfu megis mintys, oregano, persli, saets a theim. Dysgir hefyd sut i dyfu corpwmpenni, letys, moron a phys yn ogystal â chyrens duon, mafon a mefus. Mae’n gyfle i’r gwirfoddolwyr rhoi ar waith yn eu gerddi gartref yr hyn a ddysgir gan Kim.

Mae yna goed ffrwythau hefyd yn tyfu yng ngardd gymunedol y Creuddyn. Bydd y ffrwythau fel gweddill cynnyrch yr ardd yn darparu cynnyrch ffres yn ei dymor ar gyfer Banc Bwyd Llanbed. Croesewir yr ardd gan Julia Lim o Fanc Bwyd Llanbed a Bwyd Bendigedig Llanbed wnaeth gyfeirio at yr ardd yn ddiweddar yn “ardd gymunedol yn y dref, lle gall pobl weld sut mae tyfu bwyd mewn lle y mae’n hawdd gofalu amdano ac mewn ffordd sy’n golygu eu bod yn ystyried yr hinsawdd ac yn lleihau’r angen i ddyfrhau”. Bwriedir defnyddio casgen ddŵr mawr i gadw’r dŵr glaw a gesglir i ddyfrio’r ardd a defnyddir ardal yn yr ardd hefyd ar gyfer tomen gompost. Agorwyd yr ardd yn swyddogol prynhawn Gwener 28 Gorffennaf gan Ben Lake AS yng nghwmni Maer a Maeres Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, y Cynghorydd Rhys Bebb Jones a Mrs. Shân Jones, Kim Stoddart a nifer o’r gwirfoddolwyr, cynrychiolwyr o gwmni Barcud ac o’r cwmnïau sydd â swyddfeydd yn y Creuddyn.

Mae datblygiad yr ardd yn y Creuddyn o ganlyniad i arweiniad a gwaith Kim Stoddart, y newyddiadurwraig, awdur, dylunydd gerddi a’r hyfforddwraig arddwriaethol. Mae’n byw yng Ngheredigion ac wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau fel The Guardian a chylchgrawn Gardeners’ World ers 2013. Mae’n angerddol am ddefnyddio dulliau garddio a thyfu bwyd yn gynaliadwy. Mae gwarchod yr amgylchedd yn bwysig iddi yn arbennig yn sgil yr heriau newid hinsawdd. Mae’n gyd awdur y llyfr ‘The Climate Change Garden’ ac mae’n addysgu ar draws Gwledydd Prydain ac i sefydliadau megis Garden Organics, y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ym mis Rhagfyr 2022 dyfarnwyd Gwobr Gerddi’r Flwyddyn Beth Chatto iddi yng Ngwobrau Garden Media Guild. Ceir rhagor o wybodaeth am Kim a’i gwaith o ddilyn y ddolen: www.greenrocketcourses.com

Os ydych am fwy o wybodaeth am y gweithdai garddio yn y Creuddyn, cysylltwch gyda Sara Jones, Swyddog Cyfleusterau Creuddyn. Ei chyfeiriad e-bost yw creuddyn@barcud.cymru a’i rhif ffôn yw 01570 421795. Os am wybod mwy am weithgareddau eraill a drefnir ac am y cyfleusterau arbennig yn y Creuddyn, cysylltwch gyda Sara Jones.