Carnifal Llanbed – ydych chi’n barod?

Prynhawn Sadwrn 12fed Awst yng Nghlwb Rygbi Llanbed

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_4973
IMG_4973-1
IMG_4971
IMG_4971-1

Thema Carnifal Llanbed yw ‘Eich Brenin a Brenhines’. Dylai ysgogi digon o syniadau – ewch amdani! Beth am wisg ffansi debyg i wisgoedd y grŵp roc ‘Queen’ neu pwy sydd am fod y Brenin Arthur? Gallwch hyd yn oed ymddangos mewn gwisg sy’n ymdebygu i ‘Brenhines y Gwenyn’! Mae Pwyllgor Carnifal Llanbed yn edrych ymlaen at weld yr holl wisgoedd a bydd sawl gwisg ffansi i’w gweld yn yr orymdaith fydd yn gadael Ysgol Bro Pedr am 12.30. Bydd yn gorymdeithio trwy’r dref i’r Clwb Rygbi ac os am fod yn yr orymdaith, cofiwch gyrraedd Ysgol Bro Pedr cyn 12.30 i sicrhau eich lle.

Trefnir pob math o weithgareddau yn y Clwb Rygbi megis Mabolgampau, Peintio Gwynebau a Chastell Neidio. Bydd nifer o stondinau yno a rhai’n gwerthu byrgyrs a hufen iâ. Mae Carnifal Llanbed yn gyfle i’r teulu i gyd cael hwyl ac mae’r gweithgareddau’n barod wedi dechrau. Ydych chi wedi prynu copi o Gwis Logo Carnifal Llanbed? Dim ond £1 am gopi a’r hwyl yn ceisio adnabod y logos sydd ar y daflen. Cofiwch ddychwelyd eich taflen cyn Gwener 11egAwst i Annwen Jones – cewch mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Carnifal Llanbed – https://www.facebook.com/people/Lampeter-Town-Carnival/100064789926750/

Beth arall sy’n ‘mlaen yng Ngharnifal Llanbed eleni?

  • Nos Lun 7fed Awst: ‘Helfa Drysor’ ar droed o gwmpas Llanbed, gan gychwyn o Lyfrgell Tref Llanbed am 6.00 o’r gloch.
  • Nos Fercher 9fed Awst: ‘Helfa Drysor’ mewn cerbyd. Dewch yn eich cerbyd i Faes Parcio’r Rookery erbyn 6.00 o’r gloch.
  • ‘Helfa Drysor y Carnifal i Blant’: cyfle i blant chwilota am lun o goron yn ffenestri rhai o siopau Llanbed. Cewch daflen yr ‘Helfa Drysor’ i blant yn siop ‘Creative Cove’, Stryd Fawr, Llanbed. Bydd angen dychwelyd eich taflen orffenedig i’r siop cyn 4.00 o’r gloch prynhawn Gwener 11eg Awst.
  • Nos Iau 10fed: Cwis y Carnifal yng Nghlwb Rygbi Llanbed am 8.00 o’r gloch.

Mae rhywbeth ar gyfer y teulu i gyd yng Ngharnifal Llanbed. Yng ngeiriau Maer Llanbed, y Cynghorydd Rhys Bebb Jones:

“Diolch yn fawr iawn ar ran y gymuned a’r Cyngor Tref i’r tîm gweithgar o wirfoddolwyr sy’n trefnu’r Carnifal eleni. Mae’n dod â’r gymuned at ei gilydd ac yn gyfle i bawb gael hwyl. Gobeithio am dywydd braf dydd Sadwrn 12fed Awst fel gall pawb fwynhau’r Carnifal yn yr heulwen.”

Y Dirpwry Faer, y Cynghorydd Gabrielle Davies fydd yn beriniadu yn y Carnifal. Mae’r Maer yn ymddiheuro na all fod yno oherwydd ei fod yn cystadlu gyda Chôr Pam Lai? yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dewch i fwynhau a chefnogi Carnifal Llanbed prynhawn Sadwrn 12fed Awst yn y Clwb Rygbi.