Fel plentyn yn tyfu i fyny yng Ngorllewin Cymru yn y 1960au a’r 70au roeddwn bob amser yn cysylltu mis Ebrill gyda chyffro rhyfeddol ras geffylau orau’r byd, y ‘Grand National’.
Mae’n debyg ei bod yn deg dweud bod ‘Red Rum’ yn sefyll allan yn fy nghof a’i hyfforddwr cyfeillgar, Ginger McCain. Roedd ennill y ras deirgwaith yn cadarnhau ei le yn hanes y ‘Grand National’ ac mae ei gerflun ar gwrs enwog Aintree yn deyrnged deilwng.
Ar fore’r ras enwog hon, byddai’r gŵr bonheddig, prifathro ysgol Llangeitho o’r enw Benjamin Jones, ffrind annwyl i’r teulu, yn cyrraedd ein fferm laeth o’r enw Tanygraig ym mhentref Silian, ynghyd â’i wraig olygus, Eirios, a’i ferch yr un mor ddeniadol, Catrin. Ei swyddogaeth yn syml iawn oedd trosglwyddo ei wybodaeth helaeth am faterion rasio ceffylau, fel un oedd yn frwd dros gamp y Breninhoedd, gan ein harwain tuag at ddod o hyd i enillydd y ras hon y bu disgwyl mawr amdani. Gyda phob aelod o’r teulu wedi dewis ceffyl arbennig neu ddau, byddai Ben, oedd yn gwisgo siaced swanc a chrafat yn mynd ymlaen i ymweld â swyddfa’r bwci T.B. Fish yn Llanbed, i fuddsoddi ein harian ar y ceffylau talentog fyddai’n dangos eu doniau y prynhawn hwnnw.
Yn yr un modd â llawer o’r buddsoddwyr dibrofiad, fe brofwyd graddau amrywiol o lwyddiant gyda’n buddsoddiadau, ac o ystyried bod tua deugain o geffylau a marchogion yn paratoi ar gyfer y prawf eithaf hwn o stamina a gallu neidio, tebygol oedd byddai ein ceffylau dewisol yn syrthio’n bendramwnwgl ar ôl ychydig o ffensys yn unig. Fodd bynnag, ychwanegodd sbeis at helyntion y dydd, yn y gobaith o ennill hawliau brolio ymhlith teulu a ffrindiau.
Roedd fy niddordeb yn y gamp wedi cael ei ysbrydoli gan ffermwr lleol o’r enw Elwyn Jones o fferm Lluest Newydd, ger Llwynygroes. Profodd ei geffyl ‘Silver Lady’ lwyddiant ar Gwrs Rasys Henffordd. Yn ein rhan ni o’r byd, roedd rasys trotian yn teyrnasu’n oruchaf, a byddwn yn mynd gyda fy nhad, Rhythwyn Evans, a fy mrawd, David Charles, i rasys trotian yn Llanddewi Brefi a Thregaron yn achlysurol. Yn wir mae fy ffrind, Eryl Williams o Aberaeron, yn feistr o safbwynt gwybodaeth am rasys trotian ac wedi hyfforddi ceffylau yn yr Unol Dalaethau. Prynhawn Sadwrn, byddai llais melfedaidd hyfryd Peter O’Sullivan yn disgrifio cyffro’r rasio ceffylau ar y BBC yn raglen chwaraeon ‘Grandstand’. Roedd hyn yn nyddiau teledu du a gwyn ac ar adeg pan oedd y BBC yn rheoli o ran rasio ceffylau ar y teledu.
Ar yr adeg hon, ychydig a wyddwn hyd nes i fy nhad fy hysbysu, fod gan ein pentref ni, Silian, gysylltiad arbennig â’r ‘Grand National’. Roedd yn ymwneud â ras 1951 lle syrthiodd dwsin o’r ceffylau wrth geisio neidio’r ffens cyntaf. Dim ond tri cheffyl a gwblhaodd y ras ddirdynnol hon, gyda ‘Royal Tan’, a’r joci Vincent O’Brien ar ei gefn yn yr ail safle. Yn fuddugol gyda phris o 40-1 oedd ‘Nickel Coin’!
Pan ddaeth Nickel Coin i’r byd hwn ar Fferm Nanthenfoel, yn gorwedd ar ffin plwyf Silian, ebol gwan oedd hi a chynghorodd y milfeddyg Mr Hughes y perchennog i’w rhoi i lawr. Fodd bynnag, roedd un o forynion y fferm yn bygwth rhoi’r gorau i’w swydd pe bai hyn yn digwydd, ac wedi hynny cafodd yr eboles ddu ail gyfle, wrth i’r forwyn ei bwydo gyda photel o laeth o flaen y tân yng nghegin y fferm.
Gwerthwyd hi i ffermwr o Surrey, Jeffrey Royle, am y swm tywysogaidd o 50 gini. Mae’n debyg iddi gael ei gwerthu wedyn i Gymro yn dair mlwydd oed, a’r gobaith oedd y byddai’n datblygu i fod yn neidwr campus, ond er gwaethaf iddi gystadlu yn erbyn ceffyl ‘Foxhunter’ Harry Llewelyn, ni chafodd y perchennog argraff ffafriol, gan ei hystyried yn rhy araf i rasio pwynt-i-bwynt. Yn anhygoel, prynodd Jeffrey Royle ‘Nickel Coin’ am yr eildro, gan dalu £300 y tro hwn, fel ceffyl addas i’w fab, Frank ei farchogaeth, wedi iddo adael y fyddin.
Pan syrthiodd mewn ras pwynt-i-bwynt, anfonwyd y gaseg ddu at hyfforddwr o Reigate, Jack O’Donoghue. Roedd bron pob un o’r staff yn fenywod, a oedd yn anarferol iawn ar y pryd. Ymhlith y staff oedd merch ifanc o’r enw Jo Wells, a oedd wedi ymuno â’r staff yn 14 oed. Cafodd ei rhoi yng ngofal ‘Nickel Coin’, gan ei bod yn cael ei hystyried yn araf. Mae Jo yn cofio’r gaseg fel “caseg garedig gyda chlustiau mawr”.
Fe’i cofrestrwyd ar gyfer ‘Grand National’ 1951 ar Gwrs Rasio Aintree ar gyrion Lerpwl, a oedd yn golygu taith ddeuddydd yn y dyddiau hynny, gan aros gyda ffrindiau Jack ar y ffordd i Swydd Gaerhirfryn.
Roedd y gaseg naw oed yn cario lliwiau’r ffermwr o Surrey, Jeffrey Royle, a chafodd ei marchogaeth gan y joci Johnny Bullock, cyn filwr parasiwt a charcharor rhyfel. Mae Jo yn cofio’r ras y bu disgwyl mawr amdani yn dechrau gyda’r tâp wedi’i godi’n sydyn yn dal y rhan fwyaf o’r jocis allan, ac yn eu hawydd i wneud iawn am dir coll, cafwyd llanast wrth i ddwsin o geffylau syrthio’n bendramwnwgl ar y ffens cyntaf. Wrth wrando ar sylwebaeth o’r ras ar radio a oedd yn eiddo i berson cyfagos, clywodd Jo y sylwebydd yn cyhoeddi ar gam mai ‘Nickel Coin’ oedd un o’r rhai a syrthiodd, a chychwynnodd yn syth ar drywydd y ceffyl rhydd tybiedig. Er mawr syndod iddi ddarganfu mai camrybudd oedd hwn ac roedd ei hoff gaseg ‘Black Beauty’ yn dal yn y ras.
Roedd ‘Nickel Coin’ wedi elwa o ddiet yn cynnwys wyau a stowt, ac mae’n siŵr y byddai ei phrofiad blaenorol o neidio ffensys mewn sioe amaethyddol wedi bod o fudd eithriadol wrth fynd i’r afael â ffensys epig Aintree. Pan ddaethant ar draws y ffens enwog o’r enw ‘Beecher’s Brook’ ar y lap olaf, dim ond dau geffyl oedd yn yr ornest, gyda Vincent O’Brien ar ‘Royal Tan’ yn ffefryn i ennill.
Afraid dweud nad oedd ‘Nickel Coin’ wedi darllen y sgript, ac wrth i ‘Royal Tan’ wneud annibendod o neidio’r ffens olaf, llwyddodd y gaseg â gwreiddiau Cymreig i ennill o chwe hyd ceffyl. Roedd yr ysgrifen wedi bod ar y wal, yn ôl ei hyfforddwr Jack O’Donoghue, gyda rhai arwyddion yn pwyntio at fuddugoliaeth annisgwyl. Roedd ‘Nickel Coin’ yn cario’r rhif 29, gyda phen-blwydd Jack ar 29ain Gorffennaf. Roedd wedi symud i Loegr ym 1929 ac yn byw yn nhŷ rhif 29. Parhaodd i weithredu Priory Stables, Reigate nes iddo ymddeol yn 88 oed ym 1996.
Daeth ‘Nickel Coin’ y drydedd gaseg yn unig i ennill y ras enwog hon yn yr 20fed ganrif, gan ddilyn yn ôl traed Shannon Lass ym 1902 a Sheila’s Cottage ym 1948. Y gaseg gyntaf i ennill y ‘Grand National’ oedd ‘Charity’ yn 1841. ‘Nickel Coin’ yw’r gaseg olaf i ennill yr her eithaf hwn yn y byd ceffylau, er i Anti Dot orffen yn 3ydd yn 1991.
Mae cyflawniad rhyfeddol ‘Nickel Coin’ yn cael ei goffáu ar y dydd Iau yng ngŵyl rasys geffylau flynyddol Aintree, gyda’r ras ‘Goffs UK Nickel Coin Mares Standard Open National Hunt Flat Race’ ar gyfer ebolesau a chesig i goffáu ei buddugoliaeth enwog, er mwyn annog mwy o geffylau benywaidd i ddatblygu eu gyrfaoedd rasio.
Yn ôl i 1951 a chyflawnodd Jo Wells, 19 oed, hanes ar Ebrill 7fed 1951 pan ddaeth y fenyw gyntaf i arwain enillydd enwog i mewn i’r cylch enillwyr, a llongyfarchwyd hi gan berchennog Cwrs Rasio Ceffylau Aintree, Mrs Mirabel Topham. Cymaint oedd cyffro’r dyrfa o 250,000 fel bod angen hebryngwyr heddlu, gan fod selogion rasio ceffylau eisiau tynnu llinynnau o flew o gynffon y gaseg fuddugol.
Y dydd Sadwrn canlynol, aeth Jo i hela ar gefn ‘Nickel Coin’, gan ei fod yn gyfarfod olaf tymor hela Undeb Hela Surrey. O ganlyniad dywedodd Jo â gwên ddireidus, “Gwnaeth Nickel Coin dudalennau’r ‘News of the World’ am yr ail benwythnos yn olynol!”
Tra bod llwyddiant ‘Nickel Coin’ yn adlewyrchu anturiaethau ‘Black Beauty’, honnwyd efallai mai profiad rhyfeddol Jo Wells oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r ffilm boblogaidd, ‘National Velvet’, sy’n cynnwys Elizabeth Taylor, oedd ar un adeg yn wraig i’r actor Cymreig enwog Richard Burton.
Y flwyddyn ganlynol yn 1952, aeth Jo i weithio gyda chwmni ‘Canada Life Assurance’ yn Toronto. Dychwelodd i Loegr yn 1956 a phriodi Michael Motion. Buont yn rhedeg Bridfa Herringswell yn Suffolk tan 1980. Yna bu’n gweithio i Tattersalls yn yr Unol Daleithiau, a daeth ei mab, Graham Motion, yn hyfforddwr llwyddiannus a enillodd y ‘Kentucky Derby’.
Yn y cyfamser nôl yn fy mhentref enedigol, Silian, a fferm Tanygraig ar Ebrill 7fed 1951, roedd fy nhad Rhythwyn a’m taid David Evans, yn gwrando ar y ras rhyfeddol ac anghredadwy hon ar y radio. Roedd fy nhad-cu wedi bod yn dyst i berfformiad ymhell o fod yn argyhoeddiadol gan ‘Nickel Coin’ yn y gystadleuaeth neidio i geffylau yn sioe amaethyddol Pontargothi yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y gaseg wedi dymchwel sawl ffens, gan arwain David Evans i gynghori pobl lleol i gadw eu harian yn eu pocedi ar ddiwrnod y ‘Grand National’.
Diau y byddai’r cyngor hwn wedi disgyn ar glustiau byddar, o ran perchnogion blaenorol ‘Nickel Coin’, y ffermwr Mr Hughes a’i ddau fab, Elias a Godfrey o fferm Nanthenfoel, Pont Creuddyn, sy’n ffinio â phlwyf Silian. Aethant i Aintree ar y diwrnod hanesyddol dan sylw, ac fel llawer o wylwyr lleol gwybodus, cafodd bwcis Glannau Mersi a Sir Aberteifi tipyn o fwchad! Derbyniodd perchennog a chysylltiadau Nickel Coin y wobr gyntaf o £8,815.
Ni fydd fy nhad byth yn anghofio cerdded ar draws tir fferm Tanygraig i gyfleu’r newyddion syfrdanol i’w frawd hŷn Charles, a oedd yn aredig cae gyda thîm o geffylau, a oedd yn ddiau wedi mwynhau diwrnod tawelach na cheffyl arall a aned ac a fagwyd ar ffin plwyf Silian. Wrth dderbyn y newyddion syfrdanol am lwyddiant annisgwyl ‘Nickel Coin’, holodd Charles yn ddealladwy a’i Ebrill 1af oedd hi?
Aled Evans