Caws Teifi

Dwlu ar gaws Cymreig

gan Gwyneth Davies

Mandy Davies dw i. Dw i’n byw yn Llanybydder ac yn dysgu Cymraeg yng Nghanolfan Creuddyn bob dydd Mercher. Gwyneth Davies yw fy nhiwtor i. Dw i’n hoffi bwyd Cymreig. Dw i’n mynd i ysgrifennu  felly am gaws Teifi gan fy mod yn dwlu amdano.

Sefydlwyd caws Teifi ym 1982 gan John, Patrice a Paula o’r Iseldiroedd. Daethon nhw i Gymru a phrynu fferm Glynhynod yn ymyl Llandysul. Maen nhw’n gwneud y caws gyda llaeth amrwd, sy’n seiliedig ar rysáit Gouda sy’n 500 oed. Mae Caws Teifi’n gwneud wyth caws gwahanol gan ddefnyddio cynhwysion fel danadl poethion, gwymon, cwmin a chilli melys. Fy ffefryn i yw Cwmin.

Dw i’n nabod John ers blynyddoedd ac yn prynu caws pan fydda i’n ei weld. Dw i’n prynu mewn gwyliau bwyd neu yn stondin marchnad dan do Caerfyrddin. Mae caws Teifi’n ychwanegu blas arall i fy mwrdd adeg y Nadolig a dw i’n mwynhau ei fwyta gydag afalau, grawnwin a bisgedi. Mae caws Teifi hefyd yn gwneud halloumi a dw i’n ei ddefnyddio yn ein barbaciw blynyddol a’i fwyta gyda siytni cryf da. Dw i’n bwriadu ymweld â Glynhynod yn fuan gan fod John yn berchen distyllfa (distillery) hefyd, ond stori arall yw honno. Os dych chi’n hoffi bwyta caws felly, prynwch ‘Caws Teifi.’ Mae e’n fendigedig!