Ceisio barn a gwybodaeth trigolion am ardaloedd cadwraeth yng Ngheredigion

Cyfle galw heibio yng Nghanolfan Creuddyn yn y flwyddyn newydd

gan Siwan Richards
IMG_5807

Canolfan Creuddyn

Mae ardaloedd cadwraeth yn leoedd penodol o rinweddau pensaernïol neu bwysigrwydd hanesyddol arbennig, ac mae Ceredigion yn ffodus iawn i gael cyfanswm o 13. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, o bryd i’w gilydd, adolygu’r ardaloedd hyn a llunio cynigion ar gyfer eu cadw a’u gwella.

I wneud hyn, mae’r Cyngor yn diweddaru ei Arfarniadau Ardal Gadwraeth i nodi beth sy’n gwneud ardal yn arbennig ac unrhyw gyfleoedd neu broblemau a allai fodoli. Mae hyn yn sail ar gyfer cynlluniau rheoli manylach sy’n nodi ymatebion priodol i fynd i’r afael â’r cyfleoedd a’r materion hyn.

Mae’r Cyngor wedi comisiynu Griffiths Heritage Consultancy i gefnogi a datblygu Arfarniadau Ardaloedd Cadwraeth a Chynlluniau Rheoli ar gyfer 6 tref Ceredigion fel rhan o waith Creu Lleoedd ehangach y mae wedi bod yn ei wneud. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Elfen bwysig o’r gwaith hwn yw casglu gwybodaeth leol am yr ardaloedd cadwraeth a deall sut mae pobl yn gweld yr ardaloedd. Os hoffech chi ein helpu i lunio’r arfarniadau ardal gadwraeth a’r cynlluniau rheoli ar gyfer Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron, neu os hoffech ddysgu mwy am yr ardaloedd cadwraeth, dewch draw i un o’r digwyddiadau galw heibio canlynol:

  • Y Talbot, Tregaron, dydd Iau 25 Ionawr 2024, 4-6yh
  • Y Porth, Llandysul, dydd Gwener 26 Ionawr 2024, 4-6yh
  • Canolfan Creuddyn, Llambed, dydd Iau 08 Chwefror 2024, 4-6yh

Neu, os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr rhanddeiliaid, neu am unrhyw fanylion eraill, cysylltwch â Gwasanaeth Polisi Cynllunio y Cyngor drwy e-bostio ldp@ceredigion.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: “Byddwn yn annog pob unigolyn sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y gwaith hwn, fel y gellir ystyried barn a gwybodaeth trigolion a sefydliadau i sicrhau bod treftadaeth arbennig Ceredigion yn cael ei rheoli am genedlaethau i ddod.”

I gael gwybod mwy am y gwaith creu lleoedd ehangach ar gyfer 6 tref Ceredigion, ewch i dudalen Creu Lleoedd.