Ar y 9fed a 10fed o Fedi cerddodd Huw Jenkins dros 70 milltir o gwmpas Ynys Wyth ar ran y Nags Charity Barbarians er mwyn codi arian i Cancer Research UK. Fe wnaeth gychwyn cyn brecwast bore Sadwrn a chyrraedd 36 milltir erbyn amser swper cyn parhau’r bore wedyn i wneud y milltiroedd oedd yn weddill erbyn 7 o’r gloch y nos (yn barod i wylio gêm rygbi Cymru am 8).
Mae’r Nags wedi bod yn codi arian i Cancer Research UK ers dros ddeng mlynedd ac wedi codi dros £200,000. Maent wedi gwneud amryw o weithgareddau i godi arian yn cynnwys chwarae gemau rygbi (llynedd yn Llanymddyfri), canŵio afonydd, dringo mynyddoedd ac eleni cerdded o gwmpas Ynys Wyth ar benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst. Nid oedd Huw yn gallu ymuno’r penwythnos yna felly penderfynodd yn lle hynny i wneud e ar ei ben ei hun pythefnos yn hwyrach.
“Oeddwn i ddim yn gallu mynd ar Ŵyl y Banc felly penderfynes i fynd pryd oedden i’n gallu, hyd yn oed os oedd hynny ar ben fy hun. Cerddodd Neil Evans, sefydlwr y Nags, a hefyd wnaeth cerdded ar yr ŵyl banc, y 18 milltir ddiwethaf gyda fi a fydden i ddim wedi gallu gorffen hebddo fe.”
Dim hwn yw’r tro cyntaf i Huw ymgymryd â her gerdded gan iddo gerdded 60 milltir mewn 24 awr haf diwethaf ar gyfer Tir Dewi a Sefydliad DPJ, cerdded yn cario canŵ wrth ymyl y Nags ag oedd yn canŵio yn 2017 a cherdded arfordir Ceredigion mewn 24 awr ar gyfer elusen MS yn 2015.
“Dydw i ddim yn mwynhau cerdded dydd i ddydd ond dwi’n mwynhau neud pethau dwl, felly pam lai neud pethau dwl, fel cerdded Ynys Wyth mewn penwythnos, ar gyfer achos da.”
Mae’r dudalen rhodd JustGiving cerdded Ynys Wyth wedi cyrraedd dros £9,500 erbyn nawr ac maen nhw’n gobeithio cyrraedd dros £10,000 cyn iddi gau.
“Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi noddi hyd yn hyn ac i’r Nags ar y cyfan am yr holl waith maen nhw’n rhoi mewn i godi arian.”