“Ceredigion neu Sir Gâr?” : Lansio Radio Bro Pedr

Rhaglen gyntaf ‘Podlediadau Pedr’ ar gael i wrando NAWR!

gan Ifan Meredith

Bu’r cynllun yn broses hir o godi arian gan y Fforwm Cymreictod wrth gynnal amryw o wahanol weithgareddau megis y bore coffi diweddar. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a fu’n cefnogi’r digwyddiadau yma ac yn enwedig i griw’r Fforwm Cymreictod am eu brwdfrydedd!

GWRANDO NAWR!

Fel rhan o gynllun ‘Radio Bro Pedr’, lansiwyd ‘Podlediadau Pedr’ hefyd, sef platfform ar ‘Sound Cloud’ er mwyn i chi allu ail-wrando ar raglenni a’r podlediad cyntaf sydd gennym ar eich cyfer yw cyfweliadau ecsgliwsif gyda Mrs Carys Morgan, Pennaeth, Mrs Lowri Gregson, Dirprwy a Mrs Nia Lloyd Evans, Pennaeth Cynorthwyol. Felly beth am wrando i ddysgu mwy am yr Ysgol a’r tîm arwain!

GWRANDO NAWR!

Diolch yn fawr i bawb a fu’n cynorthwyo ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r rhaglen nesaf.

Fflur Meredith ac Efa Lloyd-Jones, dylunwyr logo Radio Bro Pedr.