Magwyd Ceridwen Lloyd Morgan yn Nhregarth ger Bangor ac astudiodd ym Mhrifysgolion Rhydychen, Poiters a Chymru. Bu’n gweithio fel curadur llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1981 ymlaen, ac yna fel Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn y Llyfrgell nes ymddeol. Ar hyn o bryd mae Ceridwen yn byw yn Llanafan, Ceredigion.
Yn cyflwyno Dr Ceridwen Lloyd-Morgan i’r gynulleidfa oedd yr Athro Heather Williams, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS). Dywedodd hi:
“Braint fawr i mi y bore yma yw cyflwyno Ceridwen Lloyd-Morgan i dderbyn cymrodoriaeth er anrhydedd.
Aeth Ceridwen o Ogledd Cymru i astudio ieithoedd modern ym Mhrifysgol Rhydychen. Arbenigodd yn llenyddiaeth yr oesoedd canol, ac mae ei chyfraniad i astudiaethau Cymraeg a chymharol yn un nodedig iawn. Gwnaeth gyfraniad ysgolheigaidd pwysig dros gyfnod o ddegawdau, a bu’n Archifydd a Phennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru hyd at ei hymddeoliad. Yn rhugl yn Ffrangeg, bu’n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Rennes a Brest yn Llydaw.
Mae ei phrofiad helaeth o’r maes a’i gwybodaeth fanwl yn werthfawr dros ben i’r tîm ymchwil rhyngwladol ac amlieithog sy’n gweithio ar gysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw ers y Chwyldro Ffrengig, gan werthuso, dehongli a digido dogfennau.
Mae ei gwaith wedi ei gydnabod ar lefel genedlaethol yng Nghymru gan y Gymdeithas Ddysgedig, a chan Brifysgol Bangor a ddyfarnodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd iddi.”
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Ceridwen Lloyd-Morgan:
“Rwy’n ddiolchgar iawn ac yn wirioneddol ddiolchgar am yr anrhydedd a gefais. Ar nodyn personol, mae’n rhaid i mi ddweud pa mor bwysig oedd hi i mi gael enghreifftiau o fenywod yn y teulu yn mynd i’r byd academaidd a wnaeth fy annog. Fel merched ifanc mae angen esiamplau fel hyn arnom ac roeddwn yn ffodus iawn i gael aelodau o fy nheulu – fy mam, fy modryb a oedd eisoes mewn swyddi academaidd ac a roddodd gefnogaeth aruthrol i mi.
Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i Daniel Huws. Rydych chi eisoes wedi cwrdd ag ef heddiw. Penododd Daniel fi i’r Llyfrgell Genedlaethol. Dysgais gymaint ganddo ac ni fyddwn yma heddiw i dderbyn yr anrhydedd hwn heb ei arweiniad. Daniel a’m hyfforddodd fel archifydd ac a’m gosododd ar y ffordd sydd wedi fy arwain i yma. Ac rwy’n dragwyddol ddiolchgar i Daniel am hynny – am fy mentora ac am ei gyfeillgarwch parhaus. Diolch yn fawr iawn Daniel.”