Dr Ceridwen Lloyd-Morgan yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn Seremoni Raddio Llambed

Mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad at ysgolheictod yng Nghymru a Llydaw

gan Lowri Thomas

07 July 2023

Graduations take place at the University of Wales, Trinity Saint Davids

Magwyd Ceridwen Lloyd Morgan yn Nhregarth ger Bangor ac astudiodd ym Mhrifysgolion Rhydychen, Poiters a Chymru. Bu’n gweithio fel curadur llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1981 ymlaen, ac yna fel Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn y Llyfrgell nes ymddeol. Ar hyn o bryd mae Ceridwen yn byw yn Llanafan, Ceredigion.

Yn cyflwyno Dr Ceridwen Lloyd-Morgan i’r gynulleidfa oedd yr Athro Heather Williams, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS). Dywedodd hi:

“Braint fawr i mi y bore yma yw cyflwyno Ceridwen Lloyd-Morgan i dderbyn cymrodoriaeth er anrhydedd.

Aeth Ceridwen o Ogledd Cymru i astudio ieithoedd modern ym Mhrifysgol Rhydychen. Arbenigodd yn llenyddiaeth yr oesoedd canol, ac mae ei chyfraniad i astudiaethau Cymraeg a chymharol yn un nodedig iawn. Gwnaeth gyfraniad ysgolheigaidd pwysig dros gyfnod o ddegawdau, a bu’n Archifydd a Phennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru hyd at ei hymddeoliad. Yn rhugl yn Ffrangeg, bu’n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Rennes a Brest yn Llydaw.

Mae ei phrofiad helaeth o’r maes a’i gwybodaeth fanwl yn werthfawr dros ben i’r tîm ymchwil rhyngwladol ac amlieithog sy’n gweithio ar gysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw ers y Chwyldro Ffrengig, gan werthuso, dehongli a digido dogfennau.

Mae ei gwaith wedi ei gydnabod ar lefel genedlaethol yng Nghymru gan y Gymdeithas Ddysgedig, a chan Brifysgol Bangor a ddyfarnodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd iddi.”

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Ceridwen Lloyd-Morgan:

“Rwy’n ddiolchgar iawn ac yn wirioneddol ddiolchgar am yr anrhydedd a gefais. Ar nodyn personol, mae’n rhaid i mi ddweud pa mor bwysig oedd hi i mi gael enghreifftiau o fenywod yn y teulu yn mynd i’r byd academaidd a wnaeth fy annog. Fel merched ifanc mae angen esiamplau fel hyn arnom ac roeddwn yn ffodus iawn i gael aelodau o fy nheulu – fy mam, fy modryb a oedd eisoes mewn swyddi academaidd ac a roddodd gefnogaeth aruthrol i mi.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i Daniel Huws. Rydych chi eisoes wedi cwrdd ag ef heddiw. Penododd Daniel fi i’r Llyfrgell Genedlaethol. Dysgais gymaint ganddo ac ni fyddwn yma heddiw i dderbyn yr anrhydedd hwn heb ei arweiniad. Daniel a’m hyfforddodd fel archifydd ac a’m gosododd ar y ffordd sydd wedi fy arwain i yma. Ac rwy’n dragwyddol ddiolchgar i Daniel am hynny – am fy mentora ac am ei gyfeillgarwch parhaus. Diolch yn fawr iawn Daniel.”