Chwe blynedd o garchar i ddyn o Lanybydder

Simon Howard yn euog o droseddau meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlentyn.

gan Gwyneth Davies
1

Ymddangosodd Simon Howard o Lanybydder yn Llys y Goron Abertawe ar y 9fed o Hydref, 2023 i’w ddedfrydu. Roedd eisoes wedi pledio’n euog i gyfathrebiadau rhywiol gyda phlentyn, trefnu cyflawni trosedd ryw gyda phlentyn ac annog plentyn dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Tarian, Uned Troseddu Trefnedig Rhanbarthol De Cymru arweiniodd yr ymchwiliad gyda Heddlu Dyfed Powys yn eu cefnogi. Yn y llys, dywedwyd bod Howard yn meddwl ei fod yn cyfathrebu â merch 12 oed ar y cyfryngau cymdeithasol ond mewn gwirionedd, roedd mewn cysylltiad ag un o swyddogion cudd ‘Tarian’. Clywodd y llys bod y dyn 33 oed wedi disgrifio gweithredoedd rhywiol manwl iawn ar lein gan drefnu i gyfarfod yn ogystal.  Gorchmynnwyd Howard i arwyddo’r gofrestr troseddwyr rhyw am ddeng mlynedd a darparwyd gorchymyn atal niwed rhywiol ar ei gyfer am y ddeng mlynedd nesaf gydag amodau llym.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mathew Davies o Tarian:

“Targedu Troseddwyr fel hyn oedd y ffocws ond gan sicrhau ein bod yn amddiffyn a diogelu plant wrth gwrs yn y broses. Dyma enghraifft o gydweithio gwych rhwng Tarian a Heddlu Dyfed Powys”.

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Leon Lewis o Adran Ymchwiliadau Troseddol (CID) Dyfed Powys:

“Roedd Simon Howard yn meddwl ei fod yn cael perthynas ar-lein gyda merch 12 oed. Mae gwaith Tarian a Heddlu Dyfed Powys felly wedi helpu i sicrhau bod plant sy’n agored i niwed yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn yn ein cymunedau.

Os cawsoch chi eich cam-drin yn rhywiol pan o’ch chi’n blentyn, ffoniwch 101 i roi gwybod i’ch heddlu lleol. Ry’n ni bob amser yn dilyn honiadau o gamdriniaeth, a does dim gwahaniaeth pryd y gwnaethant ddigwydd. Gall dioddefwyr siarad yn gyfrinachol gydag ymchwilwyr profiadol a gallwn hefyd eu helpu i gael mynediad i amrediad o wasanaethau cefnogi eraill.

Os oes unrhyw ofidion gennych wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd neu os ydych yn poeni sut mae rhywun arall yn ymddwyn o gwmpas plant, mae llinell gymorth gyfrinachol am ddim gan ‘Lucy Faithfull Foundation.’ Gallwch gael cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ar 0808 1000 900.”