Clwb Rygbi Llanbed yn gwerthu mas o gwrw ar ddiwrnod rhyfeddol

Dim lagyr na seidr ar ôl wedi dathliadau gêm Llanbed yn erbyn Sanclêr ddydd Sadwrn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
D3D46B63-60B9-4A74-8FEC

Llun gan Gary Jones.

Yfwyd Clwb Rygbi Llanbed yn sych ddydd Sadwrn diwethaf wedi diwrnod rhyfeddol o rygbi a dathlu.

Enillodd y tîm cyntaf yn erbyn Sanclêr mewn gêm gartref a olygodd mai nhw yw pencampwyr adran 3 y gorllewin.

Roedd hi’n ddiwrnod braf a chynnes hefyd gyda thyrfa fawr o bobl yn gwylio ac wedi aros ar ddiwedd y gêm i ddathlu gyda’r chwaraewyr.

Roedd staff ychwanegol gan y clwb a’r ddau far yn gweini cwrw drwy’r prynhawn a’r hwyr ac erbyn diwedd y dydd doedd dim lagyr na seidr dark fruits ar ôl er fod cyflenwadau ychwanegol wedi eu harchebu.

Dywedodd Donna Davies, rheolwraig y clwb,

“Diwrnod hollol arbennig i’r clwb, llawn tensiwn nes y diwedd. Roedd awyrgylch trydanol a’r cwrw yn llifo ar ddiwrnod braf gyda’r staff yn gweithio’n galed ac yn cael gwres eu traed tu ôl i’r bar.”

Ychwanegodd Donna,

“Llongyfarchiadau mawr i’r garfan o chwaraewyr a hyfforddwyr sydd wedi gweithio’n galed yn ystod y tymor ac yn haeddianol o ennill y gynghrair. Roedd yn bleser i gael cwmni’r tîm yn dathlu yn y clwb am oriau ar ôl y chwiban olaf ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n cael yr un gefnoeth blwyddyn nesa yn adran 2.”

Ymhlith y dorf oedd yr aelod seneddol Ben Lake a dywedodd,

“Roedd dyn yn teimlo bod y dref gyfan wedi dod i Heol y Gogledd i gefnogi’r tîm dydd Sadwrn, gymaint oedd y dorf. A chwarae teg i’r bois, cawsom gêm a hanner! Yn wir, roedd yr awyrgylch yn un arbennig, gyda phawb yn ymfalchïo yn llwyddiant y clwb ar ddiwedd tymor heb ei ail. Roedd yr heulwen godidog yn goron ar bopeth – ac yn amlwg wedi codi cryn dipyn o syched i’r cefnogwyr!”

Roedd deg aelod staff yn gweithio yn y clwb yn ystod y dydd.  Yfwyd cyfanswm o 25 casgen a channoedd o boteli.  Roedd paratoadau mewn lle ar gyfer diwrnod prysur iawn fel y disgwylir ar ddiwrnod gêm lleol rhwng Llanbed ac Aberaeron ond cyfaddefodd Donna,

“Dylai fod digon o gwrw gyda ni ond doedd neb yn meddwl y byddai e wedi bod fel roedd e!”

Mae cyflenwadau newydd wedi cyrraedd y Clwb Rygbi erbyn hyn, a dewis da o gwrw ar gael yno yn barod amdanoch chi.