Llongyfarchiadau calonnog i Allan Wilson, Brynsiriol, Alltyblaca ar gael ei anrhydeddu fel ‘District G club person of the year’ yng nghlwb rygbi Llanybydder yn ddiweddar. Cyflwynwyd y wobr iddo gan Chris Jones, un o aelodau bwrdd Ardal G, Undeb Rygbi Cymru a hynny’n dilyn blynyddoedd o waith diflino.
Roedd Allan yn un o aelodau cyntaf Clwb Rygbi Llanybydder ac eleni mae’r clwb yn dathlu’r 50. Chwaraewyd y gêm gyntaf yn Llandeilo gydag Allan, a oedd yn grwtyn ifanc un ar bymtheg oed ar y pryd, yn rhan o’r tîm. Yn chwaraewr rygbi brwd, roedd e hefyd yn helpu ei dad Graham i ofalu ar ôl y cae chwarae a’r ystafelloedd newid a hynny am flynyddoedd lawer. Ar ôl i’w dad orffen, cymerodd Allan yr awenau gan barhau i ofalu ar ôl yr ystafelloedd newid a’u glanhau ar ôl pob ymarfer a phob gêm tan y llynedd. Mae wrthi’n ddiwyd o hyd yn cynnal a chadw’r cae chwarae ac yn gyfrifol hefyd am y cit gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y londrét ar ôl pob gêm.
Dywedodd Aled Jones, ysgrifennydd y clwb:
‘Roedd pawb yn teimlo bod Allan yn haeddu cydnabyddiaeth ar ôl gweithio mor galed a hynny wrth gwrs yn wirfoddol. Dyw Allan ddim yn hoffi ffws a gweithio’n dawel yn y cefndir mae e bob amser. Ry’n ni’n lwcus ohono ac yn ddiolchgar iawn am bopeth mae e wedi gwneud dros y clwb ar hyd y blynyddoedd.’