Dwy flynedd yn ôl fe ges i ddiagnosis o Ganser ar y Brostad. Diolch byth, trwy ddiagnosis cynnar, triniaeth brydlon a gofal arbennig yn Ysbyty Felindre mae fy lefelau PSA bellach wedi gostwng a dwi’n falch i ddweud fy mod i nôl ar drywydd iach.
Dros y deng mlynedd diwethaf dw i wedi cymryd rhan mewn sawl digwyddiad i godi arian at Ysbyty Ganser Felindre gan gynnwys taith feicio Jonathan Davies yng Nghalifornia yn 2012, ac roedd yn brofiad gwych.
Edrychaf ymlaen yn fawr at her newydd eleni, a dw i’n hyderus, o ganlyniad i’r driniaeth ganser ddiweddar, y gallaf gwblhau’r daith o dros 400 milltir mewn pum diwrnod yn beicio gyda’r criw o Baris i Bordeaux. Byddwn yn dechrau ein taith o Baris ar y 4ydd o Fedi.
Mae seiclo wedi rhoi ffocws i mi ers blynyddoedd ac wedi bod yn rhan allweddol o’n hadferiad yn dilyn y driniaeth. Byddaf yn cyfrannu 1k fy hun, a fydd yn talu am fwy na chost fy nhaith, felly bydd pob ceiniog os hoffech gyfrannu yn mynd at yr achos teilwng hwn sydd mor agos at fy nghalon.
Does neb byth yn gwybod pryd fydd angen arbenigedd Felindre ac mi fyddem yn annog pob dyn dros 50 i ofyn i’r doctor am brawf PSA. Mi fydd hyn yn gallu darganfod unrhyw annormaledd yn eich gwaed.
Diolch yn fawr am ddarllen fy stori ac am yr holl gefnogaeth a’r diddordeb bob tro dw i’n casglu arian tuag at elusen Felindre. Os hoffech roi cyfraniad mae modd gwneud hyn drwy fynd ar fy nhudalen Just Gving-David Evans