Codi’r to yng Ngymanfa Bethel gyda Chôr Pamlai

Noson lwyddiannus neithiwr wrth godi dros £1,000 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos

Croesawyd pawb i Gymanfa Salm, Côr a Chân ym Methel Parc-y-rhos gan Cyril Davies.  Dechreuodd drwy gydymdeimlo â Wynne a Mary Davies a’r teulu o golli mab, sef Aled, a fu farw’n annisgwyl yn ddiweddar gan fynegi syndod pawb o glywed y newyddion trist.  Yna cyflwynodd Gôr Pamlai ynghyd â Sara Davies, arweinydd y côr, Elonwy Pugh-Huysmans, y cyfeilydd a Kees Huysmans yr unawdydd.

Soniodd Cyril am yr elusen a ddewiswyd sef Ambiwlans Awyr Cymru gan ddweud pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth hwn i ni yng nghefn gwlad.  Cyfeiriodd hefyd at y ffaith bod Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig i ni ym Methel oherwydd galwyd am ei gymorth angenrheidiol yn ystod y flwyddyn.

Cafwyd canu cynulleidfaol da dan arweiniad Sara gydag Elonwy wrth yr organ.  Cyflwynwyd rhaglen y côr gan Hywel Roderick.  Canodd aelodau’r côr dair cân yn yr hanner cyntaf a thair cân yn yr ail hanner ac fe swynwyd y dyrfa luosog gan eu lleisiau cyfoethog.

Unwadwyr y noson oedd Kees Huysmans a Sara Davies a braf oedd gwrando arnynt yn diddanu, gyda’r ddau yn enillwyr prif wobrau mewn eisteddfodau cenedlaethol.

Darllenwyd detholiad o salmau yn cyfeirio at y gân gan Elin Lewis, arweinwyd y weddi gan Dylan Lewis a darllenodd Megan Lewis Salm 150.

Salm 150

Molwch yr ARGLWYDD.

Molwch Dduw yn ei gysegr,

Molwch ef am ei weithredoedd nerthol,

Molwch ef am ei holl fawredd.

Molwch ef â sain utgorn,

Molwch ef â thannau a thelyn.

Molwch ef â thympan a dawns,

Molwch ef â llinynnau a ffliwt.

Molwch ef â sŵn symbalau,

Molwch ef â symbalau uchel.

Bydded i bopeth byw foliannu’r ARGLWYDD.

Molwch yr ARGLWYDD.

Cyhoeddwyd yr emynau gan Cyril Davies, Bethan Thomas ac Eira Price.  I gloi’r noson, traddodwyd y fendith gan y Parchedig Carys Hanilton.

Eric Williams oedd yn gyfrifol am y cyhoeddiadau a diolchodd i’r côr, yr arweinydd, cyfeilydd, unawdwyr ac i bawb a gymerodd ran.  Cyflwynwyd blodau i Sara ac Elonwy gan Dafydd Lewis a Cerdin Price ar ran aelodau Bethel.  Diolchodd Eric hefyd i Gwen Jones am y blodau, i Dylan Lewis am wneud y rhaglen, i Gôr Cwmann am fenthyg yr organ, i’r aelodau a fu’n paratoi bwyd i’r côr ac i bawb am eu cyfraniadau ariannol.

Wedi’r gymanfa, bu Elma Phillips y trysorydd yn cyrfi’r rhoddion a hyfryd yw cyhoeddi bod y cyfanswm wedi croesi £1,000.  Pe hoffai unrhyw un arall gyfrannu, cysylltwch â’r trysorydd o fewn wythnos os gwelwch yn dda.

Ceir blas o’r noson yn y fideo hwn a ffilmwyd gan Carys Lewis, Dylan Lewis ac Elma Phillips.