Mae gan y Comisiwn rôl i gynnal archwiliadau a chyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut i gryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Yn ôl ymatebion i’r Comisiwn, mae’n “glir bod angen gweithredu ar frys i osod sylfaen cryfach i’r iaith”. Mae’r comisiwn yn mynd i “[g]efnogi’r Gymraeg yn y meysydd tai, addysg, datblygu cymunedol, polisïau economaidd a chynllunio gwlad a thref.”
Y Gweinidog addysg, Jeremy Miles a Chadeirydd Comisiwn Cymunedau Cymraeg, Dr Simon Brooks oedd yn ateb cwestiynau pobl ifanc Cymru heddiw ym mhabell Llywodraeth Cymru.
“cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar y buarth a thu hwnt”
Y Gymraeg oedd prif bwnc trafod y sesiwn ac wrth ymateb i gwestiwn yn holi am y canllawiau ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn a thu allan ysgolion, medd Jeremy Miles bod gwersi Cymraeg am ddim ar gael i athrawon a bod yna fwy yn cael ei weithredu er mwyn hybu’r iaith.
“Hollbwysig yn y gymuned, wrth feddwl am weithgarwch chwaraeon sy’n bwysig iawn.” – Ymateb Cadeirydd Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
“angen cefnogi mudiadau fel yr Urdd, CFfI ac yn y blaen fel rhan bwysig o bolisi”
Cwestiyna Dr Simon Brooks am gyfrwng y gwasanaeth o fewn yr ysgol ac yn allgyrsiol ac felly yn mynd i “edrych a gwneud argymhellion ar hynny”.
Cred y Comisiwn gall amodau ffafriol i’r Gymraeg gael eu creu wrth weithredu mewn ffyrdd penodol. Yn rhan elfennol i’r Comisiwn yw nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.