Sioe Geir, Drefach yn dod â phobl ynghŷd

Daeth 66 car ynghŷd yn Drefach cyn mynd ar daith.

gan Siwan Richards
9ba01a7a-39a0-44b4-b8cd

Sioe Geir Drefach

Ford-Mustang

Ford Mustang, car gorau’r sioe

Screenshot-2023-06-19-at-12.09.09-1

Wyn Davies, perchennog car gorau’r sioe, gyda Scott Williams

Braf yw cofnodi bod y Sioe Geir nôl gystal ag erioed eleni gyda 66 o geir o bob lliw a llun, yr hen a’r newydd, yn cael eu harddangos ar safle Ysgol Dyffryn Cledlyn. Wrth lwc, ni chawsom ddiferyn o law na tharan na mellt tra buom yno yn cymdeithasu yn yr haul.

Y gŵr gwadd oedd Scott Williams o dîm rygbi’r Scarlets. Mae ei gwmni “Scott Williams Motorsport” yn adeiladu ceir Ford o’r safon uchaf ym Mhlwyf Llanwenog. Diolch i bawb am nwyddau arbennig ar gyfer raffl a’r Ocsiwn, o dan forthwyl medrus Mr Mark Evans. Y prif eitem oedd gwyliau mewn Pod Glampio yn rhoddedig gan Mr Rhydian Thomas, Bysus Windy Corner yn cael ei brynu gan y Cyngorydd Sir, Euros Davies.

Yn ystod y bore bu Scott yn mynd o amgylch y Sioe, gan ddewis Ford Mustang Mr Wyn Davies, Rhydybont, Llanybydder fel “Car Gorau’r Sioe”.

Ar ôl mwynhau hufen iâ, coffi a byrgers, trefnwyd taith aeth â ni ar hyd arfordir godidog Bae Ceredigion cyn troi dros fynyddoedd y Preselau, trwy bentrefi bach tawel Brynberian, Pontfaen, Llanychaer, heibio Dinas Cross, Y Parrog a Tudraeth. Arhoswyd am lymaid i dorri syched yng ngardd y Salutation, Felindre Farchog.

Llawer yn cofio mynd i’r ardal ar drip ysgol gynradd i ymweld â Chastell Henllys a Chromlech Pentre Ifan gerllaw.

Diolch i bawb am gefnogi’r digwyddiad ac i’r pwyllgor bach gweithgar am drefnu Sioe sy’n mynd o nerth i nerth. Rhennir yr elw rhwng Neuadd y Pentre, Drefach ac Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn.