Cynllunio : Ailystyried cais cynllunio yng Nghwmann

Gwrthwynebiad lleol i gais cynllunio ar gyfer 20 o adeiladau newydd ar safle hen Ysgol Coedmor

gan Ifan Meredith
bc1a17bb-d582-409f-b891-1

Dyma ddelwedd o’r Datganiad dylunio a mynediad gan RLH.

Mewn cyfarfod cynllunio Cyngor Sir Gâr ar y 3ydd o Fawrth 2022, penderfynwyd i ohirio’r mater am asesiad pellach oherwydd problemau ffosffad (‘phosphate’) yn yr Afon Teifi a Thywi.

Mae’r cais yn gofyn am ganiatad cynllunio llawn i drawsnewid hen Ysgol Coedmor (yna Carreg Hirfaen) i dŷ pedwar ystafell ynghyd ag adeiladu 20 tŷ fforddiadwy ar y safle. Cynnigir tri rhan i’r cais ac un o’r rhain yw i droi’r adeilad ysgol yn dŷ pedwar ystafell gyda chegin agored (‘open plan’) gydag ystafell fyw, ystafell cyfleustod (‘utility’) a thai bach.

“angen pendodol am fyngalo anabl ar gyfer teulu lleol” – Head of Housing

Rhan arall yw adeiladu 2 byngalo un llawr ar gyfer unigolion anabl. Lleolir rhain i’r Gogledd Ddwyrain a De Gorllewin yn y cynlluniau. Yn olaf, mae yna fwriad i adeiladu 18 o dai dau-lawr gan gynnwys dau cost isel gyda 3 ystafell wely, 8 tŷ wedi eu rhentu yn gymdeithasol gyda 2 ystafell wely yn ogystal â 8 tŷ wedi eu rhentu yn gymdeithasol gydag un ystafell wely.

“siom yn Barcud am fethu gwrando ar bryderon plwyfolion”

Serch hynny, mae yna ymatebion cryf wedi bod yn erbyn y cynlluniau gyda phryderon yn cael eu codi gan Gyngor Cymuned Pencarreg e-bost ar yr 20fed o Chwefror, 2023 ar sail problemau dŵr arwyneb a systemau dŵr ffo.

“Pe bai’r datblygwyr a’r swyddogion cynllunio yn gallu gweld y problemau sydd eisoes yn bodoli ar ochr isaf ystâd o dai Heol Hathren, mi fydden nhw yn meddwl dwywaith cyn ganiatau’r cais i barhau.”

“wedi ein hysbysebu blynyddoedd yn ôl bod y pwmp dŵr ffo ar ochr waelod Cwmann ar gapasiti llawn bryd hynny”

Mewn ymateb i’r pryderon, medd y Cyngor Sir bod Dŵr Cymru bellach wedi cadarnhau i waredu ffosffad o weithfeydd triniaeth Llanbed erbyn 31ain o Fai 2025.

Roedd gwrthwynebiadau eraill y Cyngor Cymuned yn cynnwys nad oedd yna angen wirioneddol am ragor o ddatblygiadau tai yn yr ardal ac y byddai’r cynlluniau yn gwanhau’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ardal. Yn ychwanegol, mae ganddynt bryderon am gapasiti yn yr ysgol gan fod yna ormod o ddisyblion eisoes yn yr ysgolion cyfagos. Gyda thoriadau cyson yn yr ardal wrth i wasanaethau fynd ar-lein, mae mwy o alw am wasanaethau yn yr ardal ac felly mae yna bryderon nad oes yna wasanaethau digonol i gyrraedd y galw. Pryder sylweddol arall oedd bod y tir yn ansefydlog gan fod ffordd ddŵr wedi ei chladdu ynghyd â mewnlenwi.

Mae pryderon tebyg wedi eu codi gan y cyhoedd ac un o’r cymdogion cyfagos yw Sian Roberts Jones:

“Nid ydym yn gwrthwynebu ail ddatblygu’r safle. Nid ydym chwaith yn amau bod angen am dai fforddiadwy a thai cymdeithasol yn yr adral hon, ond nid ar drail preifatrwydd pobl eraill.
Mae nifer o resymau dros wrthwynebu’r cais ar sail yr iaith Gymraeg, diffyg llefydd yn yr ysgol, diffyg cyfleusterau yn y pentref, dim un siop, dim un dafarn, yr angen i fynd mewn car i bobman ond yn bennaf oherwydd gorddatblygiad y safle a’r ffaith y bydd y tai presennol yn colli preifatrwydd.”

Yn ôl Barcud, maent am weithredu Poilsi Gosodiadau Lleol er mwyn rhoi blaenoriaeth i bobl â chysylltiadau lleol. Mae Pennaeth Gwasanaethau Hamdden a Phennaeth Trafnidiaeth a Phrif-ffyrdd wedi amlunellu’r angen am welliannau i gyfleusterau cerddwyr er mwyn rhoi mynediad diogel i’r safle ac yn cynnig buddsoddiad o £44,000 ar gyfer isadeiledd Teithio Actif a chynaliadwy yn yr ardal.

Mae disgwyl i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr gwrdd ar ddydd Iau, y 14eg o Fedi gan wneud penderfyniad i roi sêl bendith ar y cynllun yma serch yr holl wrthwynebiadau gan drigolion a chynghorwyr lleol.