Dangos prawf eich bod yn byw yng Ngheredigion er mwyn defnyddio Safle Gwastraff Cartref Llanbed

Rheolau newydd ar Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ers dydd Llun, 06 Tachwedd 2023, cyflwynwyd rheolau newydd ar Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion gan gynnwys Safle LAS yn Llanbed.

Un o’r newidiadau mwyaf yw’r posibilrwydd y bydd y gweithwyr yn gofyn i’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth am brawf eu bod yn byw yng Ngheredigion.

Cyflwynir y newid hwn am fod y safleoedd hyn ar gyfer trigolion sy’n talu Treth y Cyngor yng Ngheredigion. Er mwyn profi eich bod yn byw yng Ngheredigion, bydd angen dangos dogfen swyddogol sy’n cynnwys enw a chyfeiriad e.e. bil Treth y Cyngor, bil cyfleustodau neu drwydded yrru.

Ond beth am breswylwyr sy’n byw yn ardal Llanbed a Llanybydder ond ar ochr arall yr afon Teifi yn Sir Gaerfyrddin?  A fydd angen i bobl Cwmann, Pencarreg, Llanybydder a Llanllwni fynd â’u gwastraff bob cam i Gaerfyrddin neu Rydaman?

Mae’r newidiadau i reolau’r Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion hefyd yn cynnwys canllawiau cliriach ynglŷn â’r deunyddiau y gellir eu gadael ar y safleoedd ynghyd â’r cyfyngiadau sy’n bodoli ar gyfer rhai deunyddiau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd at y dudalen Safle Gwastraff Cartref ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/saflegwastraffcartref

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Mae’r Safleoedd Gwastraff Cartref yn gyfleusterau gwerthfawr iawn. Mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n iawn ac yn gyfreithlon gan bawb sydd â’r hawl i’w defnyddio nhw. Bydd y newidiadau a gyflwynir o gymorth i wneud hyn a byddant hefyd yn sicrhau ein bod ni’n ymdrin â’r gwastraff sy’n cael ei adael ar y safleoedd yn y ffordd fwyaf effeithlon yn ariannol ac yn amgylcheddol. Fel rhan o ymgyrch Caru Ceredigion, hoffem ddiolch i drigolion y sir am gydweithio â ni wrth i ni gyflwyno’r newidiadau hyn a fydd o fudd i’n cymunedau a’r amgylchedd.”

Wrth siarad â gweithwyr yn Safle Gwastraff Cartref Llanbed ddoe dywedwyd y byddant dal i dderbyn gwastraff y gellir ei ailgylch gan preswylwyr Ceredigion a Sir Gâr, ond ni dderbynnir gwastraff mewn bagiau duon gan breswylwyr Sir Gâr.