Penodwyd Dr Daniel Huws yn archifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1961. Yn 1967, trodd ei olygon at lawysgrifau canoloesol ac mae ei gyhoeddiadau niferus wedi gweddnewid ein dealltwriaeth o’n treftadaeth lenyddol. Erbyn ei ymddeoliad yn 1992 roedd wedi hen ennill ei blwyf fel y pennaf awdurdod yn ei faes, ac yn 1996 dechreuodd weithio ar ei magnum opus, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800–c.1800. Cyhoeddwyd tair cyfrol hirddisgwyliedig y Repertory gan y Ganolfan Uwchefrydiau a’r Llyfrgell Genedlaethol yn 2022. Cynhaliwyd cynhadledd ‘Llawysgrifau Cymru’ ym mis Mehefin eleni i nodi’r achlysur yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS.
Yn y seremoni heddiw, fe’i hanrhydeddwyd i gydnabod ei gyfraniad neulltiol i ysgolheictod a hanes Cymru. Yn cyflwyno Dr Daniel Huws i’r gynulleidfa roedd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS). Dywedodd hi:
“Mae’n bleser ac yn anrhydedd mawr i mi gyflwyno Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Daniel Huws. Mae Daniel Huws yn un o ysgolheigion mwyaf ein cenedl ac yn awdurdod rhyngwladol ar lawysgrifau.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, ddiwedd Mehefin 2022, ar drothwy penblwydd Daniel yn ddeg a phedwar ugain oed, roeddem yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn lansio ei gampwaith, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes circa 800 to circa 1800, yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford . Ein braint yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a’r Brifysgol hon, ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, oedd cyhoeddi’r cyfrolau hyn sydd bellach wedi canfod eu ffordd i lyfrgelloedd a darllenwyr ar draws y byd.
Wrth anrhydeddu Daniel, ac wrthi i ysgolheigion ar draws y byd edmygu ei gampwaith wrth gyflawni’r Repertory, mae’n bwysig wrth gwrs ein bod yn llawn gydnabod ei ysgolheictod dylanwadol, ei gyfraniad aruthrol a’i gyhoeddiadau sylweddol cyn cyhoeddi’r Repertory, ac mae Daniel Huws wedi derbyn amryw anrhydeddau eisoes, gan gynnwys Gwobr Derek Allen yr Academi Brydeinig, doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Cymrodoriaeth gan
Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a’r llynedd derbyniodd Fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Wrth gloi, ga i ddiolch yn arbennig i chi Daniel ar ran holl ymchwilwyr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar hyd y blynyddoedd a’m rhagflaenwyr fel Cyfarwyddwyr hefyd, am eich cyngor parod i ni bob amser, o’r prosiect cyntaf un ‘Beirdd y Tywysogion’, ac yna ‘Beirdd yr Uchelwyr’ a ‘Guto’r Glyn’. Bu eich cyfraniad yn allweddol wrth ddatblygu polisi golygyddol arloesol ar gyfer golygu’r farddoniaeth. Mae’n hyfryd gweld rhai yma heddiw, ac yn eu plith Dr Gruffudd Antur, a fu’n gynorthwyydd i chi yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.
Fe gyfeiriwyd at y berthynas arbennig rhyngom fel Prifysgol a’r Llyfrgell genedlaethol. Mae eich cyfraniad chi yn brawf o’r berthynas honno ac yn gonglfaen ar gyfer y dyfodol.
Wrth dderbyn y Ddoethuriaeth er Anrhydedd, dywedodd Dr Daniel Huws:
“Yn gyntaf, rhaid i mi ddiolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am yr anrhydedd annisgwyl yma – rwy’n hynod ddiolchgar i’r brifysgol.
Diolch hefyd i’r Athro Medwin Hughes. Mae wedi cymryd diddordeb mawr yn y Repertory ac mae ei gefnogaeth wedi bod yn gwbl allweddol. Diolch yn fawr iawn i chi.
Er bod fy enw ar y gwaith, mae’r Repertory wedi bod yn ddibynnol ar nifer o bobl. Ni fyddai dim byd yno oni bai am y gefnogaeth, yr wyf wedi’i chael gan gynifer o bobl. Hoffwn roi sylw arbennig i Dr Gruffudd Antur – rydych chi’n mynd i weld pethau mawr ganddo yn y dyfodol.
Hoffwn orffen drwy fynegi ychydig eiriau o longyfarchiadau a gobeithion ar gyfer y dyfodol. – Dymunaf y gorau i’r Athro Medwin Hughes i’r dyfodol, a dymunaf yn dda i’w olynydd yr Athro Elwen Evans wrth iddi gymryd drosodd ei gyfrifoldebau. Hoffwn ddymuno’n dda i bawb sydd wedi graddio neu dderbyn anrhydedd yma heddiw – a dymunaf yn dda iddynt ac rwy’n siŵr y bydd ffrwyth eu haddysg yn Llambed i’w weld yn eang. Diolch yn fawr iawn.”