Gwobrwywyd Gwyneth Hayward o Gwmann, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda Gwobr y Myfyrwyr yn Noson Wobrwyo’r Coleg Cymraeg 2023.
Ar ôl graddio o’r Brifysgol yn Llundain aeth Gwyneth ymlaen i weithio i’r GIG fel ffisiotherapydd am 34 blynedd yn cynnwys gweithio yn Nhreforys, Aberystwyth a Llambed.
“Roeddwn i wastad eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r proffesiwn a hefyd roeddwn yn enjoio dysgu myfyrwyr pan oedden nhw’n dod ar leoliad i Lambed” dywedodd Gwyneth am ei dewis i fod yn ddarlithydd. “Roeddwn yn mwynhau fy ngradd meistr yng Nghaerdydd a phan welais y swydd yn cael ei hysbysebu 5 mlynedd yn ôl, roedd e’n gyfle perffaith.”
Mae Gwobr y Myfyrwyr yn cael ei chyflwyno i ddarlithydd a gafodd ei enwebu gan fyfyrwyr. Ffion Targett o Bort Talbot wnaeth enwebu Gwyneth am ei gwaith bugeiliol pan oedd Ffion yn fyfyrwraig.
“Ni chredais y byddwn yn gallu cwblhau’r flwyddyn gyntaf, ond dyma fi heddiw mis cyn graddio ac wedi derbyn swydd gyda Bae Abertawe, diolch i’w harweiniad a’i chefnogaeth barhaus.” dywedodd Ffion yn ei haraith am Gwyneth yn y Noson Wobrwyo. “Mae hi wedi dangos mwy o empathi ag ystyriaeth nag unrhyw athro na darlithydd rwy erioed wedi cwrdd. Mae hi wedi, fel maen nhw’n dweud yn Saesneg, ‘gone above and beyond the call of duty’.”
Yn siarad am y wobr dywedodd Gwyneth roedd yn “bach o sioc i gael ei henwebu heb sôn am fynd ymlaen i ennill. Mae’n hyfryd cael y gydnabyddiaeth ond mwy na ddim mae’n tynnu sylw i’r Gymraeg yn Brifysgol Caerdydd.”
Darlithio yn y Gymraeg mae Gwyneth yn gwneud rhan amlaf. Mae hyn yn rhoi’r siawns i fyfyrwyr gwneud rhan o’i gradd trwy’r Gymraeg, cyfle oedd ddim i gael o’r blaen. Mae hyn yn helpu’r maes ffisiotherapi weithio tuag at y Cynnig Gweithredol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Cynnig Gweithredol neu ‘Active Offer’ yn golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano – dylai’r Gymraeg fod mor weladwy â’r Saesneg.
Dywedodd Gwyneth am ei swydd, “Mae’n gyfle arbennig i nid yn unig darlithio yn y Gymraeg ond hefyd hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn y maes a gwella’r maes i’r gweithwyr a’r cleifion yn y broses. Nid yn unig i helpu’r cleifion Cymraeg i gael y gwasanaeth mae ganddynt hawl i gael, ond helpu pawb yn y maes gyda’u Cymraeg.
“Mae’r swydd yn cyfuno’r ddau beth dw i mwyaf angerddol amdanynt, ffisiotherapi a’r Gymraeg.”