Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn 2023 yn Llambed

Cymorth, cyngor a chefnogaeth amhrisiadwy i bobl hŷn yng Nghanolfan Lles Llambed

gan Siwan Richards

Wrth i’r byd ddod at ei gilydd i anrhydeddu a gwerthfawrogi ein poblogaeth hŷn, mae Ceredigion yn paratoi ar gyfer dathliad rhyfeddol ar Ddiwrnod Pobl Hŷn 2023.

Gyda’r nod o feithrin cynwysoldeb, cefnogaeth, ac ymdeimlad o gymuned ymhlith unigolion 50 oed a hŷn, mae disgwyl iddo fod yn ddigwyddiad cofiadwy.

Ar 02 Hydref 2023, bydd Ceredigion Actif a Thîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion yn cynnal digwyddiad gan ddod â dros 40 o sefydliadau ynghyd sy’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth amhrisiadwy i’n poblogaeth hŷn. Mae’r ymdrech gydweithredol hon yn dyst i ymrwymiad diwyro’r sir i wneud Ceredigion yn gymuned oed-gyfeillgar sy’n cyfoethogi ein bywydau wrth i ni heneiddio.

Mae uchafbwyntiau allweddol y digwyddiad yn cynnwys:

  • Cyfoeth o adnoddau: gyda mwy na 40 o sefydliadau yn bresennol, bydd gan fynychwyr fynediad at ystod amrywiol o adnoddau. O awgrymiadau iechyd a lles i ganllawiau ar dai a chymorth cymdeithasol, bydd y digwyddiad hwn yn gyrchfan un stop ar gyfer holl anghenion trigolion hŷn.
  • Gweithdai rhyngweithiol: bydd gweithdai a seminarau ymgysylltu yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i wahanol agweddau ar fywydau pobl hŷn. Bydd arbenigwyr o wahanol feysydd yn arwain trafodaethau ar bynciau sy’n amrywio o heneiddio’n iach i fabwysiadu technoleg.
  • Ymgysylltiad cymunedol: mae ymdeimlad o gymuned wrth wraidd y digwyddiad hwn. Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i gysylltu â chyfoedion, rhannu profiadau, a meithrin cyfeillgarwch parhaol.
  • Adloniant a hamdden: bydd y digwyddiad nid yn unig yn addysgiadol ond hefyd yn bleserus. Bydd gweithgareddau adloniant a hamdden, gan gynnwys sesiynau yn y gampfa yn creu elfen ychwanegol o hwyl i’r diwrnod.

Mynegodd y Cynghorydd Alun Williams, Hyrwyddwr Pobl Hŷn Cyngor Sir Ceredigion, gyffro ynghylch y digwyddiad, gan ddweud: “Mae Diwrnod Pobl Hŷn 2023 yn gyfle gwych i ddathlu profiadau a chyfraniadau cyfoethog ein Pobl Hŷn. Gyda’r newidiadau demograffig sy’n digwydd ar hyn o bryd, disgwylir y bydd traean o’n poblogaeth yn y sir dros 65 erbyn 2040. Mae’n bwysig ein bod yn cynllunio ymlaen at hynny drwy helpu i ddod â’r holl sefydliadau rhyfeddol sy’n gwneud gwaith mor dda yn lleol at ei gilydd i greu cymuned oed-gyfeillgar.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sydd â chyfrifoldeb ar gyfer Hamdden: “Rwy’n mawr obeithio y daw cynifer â phosib o bobl yr ardal i’r digwyddiad hwn i ddathlu Diwrnod Pobl Hŷn ac hefyd i weld a phrofi y Ganolfan Lles yn Llambed – mae hi werth ei gweld.”

Cynhelir y digwyddiad yn y Ganolfan Lles yn Llanbedr Pont Steffan rhwng 10am a 3pm. Mae mynediad am ddim, ac anogir pob aelod o’r gymuned i fynychu.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i wneud Diwrnod Pobl Hŷn 2023 yn llwyddiant ysgubol. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i ddathlu doethineb a bywiogrwydd ein dinasyddion hŷn ar 02 Hydref 2023. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod pob person yng Ngheredigion yn parhau i fyw bywydau boddhaus.