Ar ddydd Sul gwlyb Gorffennaf 30ain fe gynhaliwyd prynhawn o ddathlu llwyddiannau ieuenctid pêl droed Llambed. Roedd y clwb rygbi dan ei sang a diolch iddynt am goginio’r bwyd blasus ar gyfer pawb.
Fe gafodd pob un plentyn a oedd yn rhan o dîm pêl droed Llambed yn ystod y tymor het fwced er mwyn diolch iddynt am eu gwaith caled eleni. Roedd yn flwyddyn hynod o lewyrchus gyda tua 140 o ieuenctid wedi cofrestru i chwarae.
Yn arwain y prynhawn oedd Paul Jones a wnaeth ddiolch i bawb, yn enwedig yr hyfforddwyr am eu gwaith diflino yn ystod y tymor.
Mae’n rhaid enwi un hyfforddwr yn arbennig sef Gareth Ebenezer. Ar ddechrau mis Gorffennaf cynhaliwyd gwobrau Sir Ceredigion, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion mewn partneriaeth â Ceredigion Actif, ble enillodd Gareth wobr hyfforddwr y flwyddyn am ei waith gwirfoddol i glybiau pêl droed a rygbi. Er nad yw Gareth yn un sydd eisiau unrhyw sylw o gwbwl roedd hwn yn gyfle i ni fel clwb i’w longyfarch a diolch iddo am ei waith.
Roedd gwobrau arbennig yn ystod y prynhawn a enwebwyd gan yr hyfforddwyr. Enillwyr y gwobrau yma oedd:
Dan 6; Chwaraewr yr Hyfforddwr Ilan Alffi Gregson
Dan 8; Chwaraewr yr Hyfforddwr Erin Jones
Dan 10; Chwaraewr yr Hyfforddwr Ifan Jones
Dan 11; Chwaraewr yr Hyfforddwr Osian Bird
Dan 12; Chwaraewr yr Hyfforddwr Dion Jacob
Dan 14; Chwaraewr yr Hyfforddwr Ifan Jones
Dan 14; Chwaraewr y Chwaraewyr Osian Jones
Dan 16; Chwaraewr yr Hyfforddwr Harri Rivers
Dan 16; Chwaraewr y Chwaraewyr Nathan Davies
Da iawn i’r unigolion wnaeth ennill y gwobrau unigol ond mae POB unigolyn yn bwysig i’r clwb ac mae’n destun balchder i ni i weld y chwaraewyr yn datblygu ac yn ymroi 100% drwy gydol y tymor. Edrychwn ymlaen i’r tymor newydd.
Os ydych am wybod mwy am y Clwb dilynwch ni ar ein tudalennau; Facebook, Instagram a Twitter.