Dechrau arbennig yn ras gynta’r gyfres

Sion Evans o Gwmann yn ennill ar gefn ei Fantic 125

Gary Jones
gan Gary Jones
1FFA1DDF-EAF6-4108-82EC

Roedd yn dda gweld Sion Evans o Gwmann yn gorffen ras gynta’r flwyddyn o Gyfres ACU Sprint wedi ennill adran E1 yn nosbarth y Meistri.

Roedd Sion ar gefn Fantic 125 gyda thîm PAR Homes. Dechrau arbennig i’r tymor newydd a tro cynta mas ar y Fantic yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth ACU Sprint dros Wledydd Prydain.