Diwedd i Wyth niwrnod o Gystadlu yn Llŷn ac Eifionydd

Perfformio ac anrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.

gan Ifan Meredith

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dod i ben am flwyddyn arall, mae yna gryn edrych ymlaen at Eisteddfod 2024 ym Mhontypridd eisoes ond ar ddyddiau Iau, Gwener a Sadwrn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, bu sawl eitem o’r ardal yn cystadlu ar y Llwyfannau.

Dydd Iau:

Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer – Parti Man y Man – 1af

Dydd Gwener:

Côr Llefaru dros 16 mewn nifer – Côr Llefaru Sarn Helen – 2il

Unawd Soprano 25 oed a throsodd – Sara Davies – 3ydd

Bu Côr Meibion Pam Lai? yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Corau Tenor / Bas ddydd Sadwrn hefyd.

Roedd yn Eisteddfod arbennig iawn i Anwen Butten neu ‘Anwen o Gellan’ yn ôl ei henw barddol wrth iddi gael ei derbyn i Orsedd y Beirdd yn y Seremoni fore Gwener.

Yn y Babell Lên, cyhoeddwyd mai Huw Evans, Alltgoch oedd yn fuddugol ar gystadleuaeth y Delyneg.  Llongyfarchiadau mawr iddo.

Roedd talentau lleol yn cael eu harddangos ar hyd y Maes eleni gyda thair o’r ardal yn perfformio mewn sioeau amrywiol.

Yn 2024 mi fydd y brifwyl yn teithio i Rondda Cynon Taf a Phontypridd bydd cartref Maes Eisteddfod Genedlaethol 2024 fel cyhoeddwyd yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Yn ystod yr Eisteddfod eleni, mynegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses bryderon am hyd y ŵyl wyth niwrnod oherwydd ystyriaethau cyllidebol. Yn sgil hyn, mae pôl piniwn wedi ei lansio gan Lleol Dot Cymru er mwyn crynhoi barn pobl am sawl diwrnod dylai’r Eisteddfod bara. Beth yw eich barn chi?