Y diweddaraf o Faes yr Eisteddfod ar Ddydd Iau

Dilynwch y blog byw i weld holl ganlyniadau a chystadlaethau ardal Clonc360. 

gan Ifan Meredith
IMG_1509EISTEDDFOD YR URDD

Er y tywydd oer bore ddoe, ma’r haul wedi ymddangos i groesawu eisteddfodwyr i Lanymddyfri.

Cystadlaethau’r dydd:

08:00- Perfformiad Theatrig Unigol Bl. 7-9- Pafiliwn Gwyrdd- Ela Mablen Griffiths-Jones.

09:30- Unawd Cerdd Dant Bl. 7, 8 a 9- Pafiliwn Coch- Ela Mablen Griffiths-Jones.

10:30- Grŵp Dawns Werin BI. 7, 8 a 9- Pafiliwn Gwyn- Ysgol Bro Pedr

15:04

Ifan Meredith yn siarad â dawnswyr Ysgol Bro Pedr yn Eisteddfod yr Urdd heddiw.

14:27

Prif-fardd Eisteddfod yr Urdd 2023 yw Tegwen Bruce-Deans o gylch Bangor Ogwen, rhanbarth Eryri.

Yn enedigol o Lewsham, Llundain, Tegwen ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth yn 2021 a 2022 cyn ennill y Gadair eleni.

Gofyn y gystadleuaeth oedd i lunio cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Afon’. Daeth 11 ymgais i law’r beirniaid, Hywel Griffiths a Gwennan Evans a ddisgrifiodd mai’r buddugwr oedd y “bardd mwyaf crefftus ac aeddfeta’r gystadleuaeth”. 

“trwy drin delwedd yr afon yn gynnil, mae’r bardd wedi llwyddo i’w throi i’w melin ei hun, yn hytrach na chael ei chario ymaith gan y llif, ac mae’n gwbl deilwng o Gadair Eisteddfod Sir Gâr.”

13:08

Ysgol Bro Pedr yng nghystadleuaeth y Ddawns Werin bl. 7, 8 a 9.

12:11

Llongyfarchiadau i Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd, disgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron ar ennill yr Unawd Cerdd Dant Bl. 7,8 a 9.
Hefyd i Trystan Bryn Evans, Harford, Aelwyd Penrhyd ar ddod yn 3ydd.

12:03

Pwy sy’n adnabod y swyddogion tân hyn ar faes Eisteddfod yr Urdd?

10:13

Ela Mablen Griffiths-Jones yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Cerdd Dant bl. 7, 8 a 9.