Y diweddaraf o Sioe Llanbed

Heddiw cynhelir y 133fed Sioe Amaethyddol yn Llanbed.

gan Ifan Meredith

Dilynwch y blog byw am y diweddaraf o faes y sioe!

Cofiwch gyfrannu os ydych yn dod draw i weld yr amryw o weithgareddau sydd i’w cael yma heddiw. Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod da.

12:55

IMG_2028

Pro Stock

IMG_2027

Caws Cenarth

Enillwyr y stondinau gorau:

Categori y stondinau mawr:

1. Milfeddygon Pro Stock

Categori y stondinau bach:

1. Caws Cenarth

12:46

Ewch draw i brynu rhain yn stondin Sioe’r Cardis heddiw! Ma nhw’n hedfan mas. Yn cael eu lawnsio heddiw

12:43

Dosbarth mawr arbennig yn y tywyswyr ifanc!

11:20

Gwledd i’r llygaid wrth weld yr holl gerbydau ‘vintage’. 

11:17

Gweithgareddau’r i’r teulu cyfan ar faes y sioe. 

11:14

Y ceffylau wedi dechrau bore ’ma.

10:36

Eithaf gwyntog yw hi heddiw ond yn parhau i fod yn sych.

10:16

IMG_2022

Y defaid yn barod am ddiwrnod gwych o gystadlu.

Yr haul wedi ymddangos ar gyfer diwrnod o hwyl a chystadlu!

09:59

Y da wedi cyrraedd yn barod am ddiwrnod o gystadlu!